
Cefnogi Staff
Mae'r Cynghorwyr Iechyd Meddwl ar gael i dderbyn cyfeiriadau am fyfyrwyr y mae gennych bryderon yn eu cylch.聽Yn ogystal, rydym yn cefnogi eich darpariaeth les mewn colegau ac adrannau mewn amrywiaeth o ffyrdd.
- Os byddwch yn cyfeirio myfyriwr atom byddwn yn mynd ar 么l hynny.
- Cysylltu 芒 chi a'ch ysgol.
- Rhoi cefnogaeth i golegau ac adrannau sy'n ymdopi 芒 thrawma.
- Cyfle i drafod pryderon neu ofyn am arweiniad heb orfod datgelu manylion am fyfyriwr.
- Cyfarfodydd i drafod achosion brys.
Rhaid i staff academaidd, gweinyddol a chefnogol fod yn glir ynghylch eu sgiliau a'u swyddogaethau fel unigolion, a ffiniau'r hyn y gallant ei wneud.
Cofiwch na ddylech gadw pryderon difrifol am rywun arall i chi’ch hun.
Ymdrin ag Argyfwng Iechyd Meddwl.
Fel rhan o becyn lles cyffredinol i staff, mae’r Brifysgol yn darparu Gwasanaeth Cwnsela cyfrinachol a phroffesiynol i staff. Mae ar gael i’w holl weithwyr ac fe'i cynigir gan y CARE FIRST 鈥� Rhaglen Cymorth i Weithwyr.
Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
Ymddiriedolaeth Goffa Charlie Waller
Darperir y pecyn e-ddysgu hwn gan ac mae wedi ei gynllunio i roi'r sgiliau, y wybodaeth a'r hyder i staff nad ydynt yn arbenigwyr roi cefnogaeth gychwynnol i fyfyrwyr a all fod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl. Fe'i hargymhellir yn arbennig i staff y Brifysgol sydd 芒 chyfrifoldebau bugeiliol.
Wedi'i ddiweddaru 04.04.19