Stevie Fox: Fy mhrofiad i fel myfyriwr 
Unwaith y gwnes i sylweddoli nad oedd dim o'i le 芒 pheidio 芒 gwybod pethau, a dod i delerau 芒'r ffaith fy mod i yn h欧n a derbyn nad oedd disgwyl i fi wybod beth ro'n i'n ei wneud, mi wnes i lwyddo i ymlacio a mwynhau'r holl brofiad o fod yn y Brifysgol.聽 Unwaith i'r myfyrwyr iau yn y gr诺p astudio roi'r gorau i fy nhrin i fel 'person h欧n' - hynny ydy - gofyn caniat芒d i fynd i gael diod, neu ymddiheuro i mi am fod yn hwyr - ac unwaith y gallwn i roi'r gorau i ddweud pethau fel 'Dim fi ydy'ch tiwtor /mam / nain chi', myfyriwr dwi 'run fath 芒 chi', ac fe ddechreuon nhw fy nghynnwys yn eu j么cs, eu sylwadau sarhaus a'u sgyrsiau cyffredinol - mi wnes i sylwi gymaint yr oedden ni yn hoffi ein gilydd, ac roedden ni'n cyd-dynnu'n wych.聽 Byddwn yn gwahodd rhai ohonynt draw am swper go iawn bob hyn a hyn, ac yn eu tro roedden nhw yn fy helpu i efo fy nulliau astudio (mae sut maen nhw'n dysgu mewn ysgolion bellach mor wahanol i'r hyn y gwn i amdano) a fy ff么n symudol newydd.聽 O ddifrif.
Un o'r pethau gorau am fod yn fyfyriwr h欧n yw bod gennych yr hyder a'r sgiliau bywyd sy'n gwneud i chi allu gofyn cwestiynau, dod at y pwynt yn gyflym a gwybod pryd nad ydych chi'n gwybod rhywbeth. Rydych yn ymwybodol o'r bylchau yn eich gwybodaeth, ac yn ddigon hyderus i fynd i'r afael 芒 nhw efo'ch tiwtoriaid.聽 Ddim i roi darlithoedd yn unig y mae eich tiwtoriaid yno. Mi wn芒n nhw bopeth o fewn eu gallu i'ch cefnogi ac maen nhw'n wirioneddol falch os ydych chi'n gofyn am help.
Peth arall y gwnes i ei fwynhau yn arw oedd bod yn Arweinydd Cyfoed, gan helpu i groesawu myfyrwyr newydd o bob oed a'u helpu i ymgartrefu.聽 Ro'n i'n treulio lot o amser yn ystod y Penwythnos Croeso yng nghwmni rhieni, sydd wastad yn hapus i weld person h欧n yn cymryd eu plentyn dan eu hadain.聽 Roedd hynny'n rhoi hyder i’r rhieni, ac ro'n i'n teimlo'n falch eu bod nhw'n ymddiried ynof fi i gadw llygad ar eu plant.聽 (Yn y rhan fwyaf o achosion, doedd dim angen edrych ar eu holau ar 么l dechrau'r semester).聽 Mi allwch chi wneud hyn ar 么l eich blwyddyn gyntaf - helpu i wneud argraff ar fyfyrwyr newydd.
Cymerwch ran mewn cymaint o bethau ag y gallwch o weithgareddau eraill ar wah芒n i astudio. Efallai na fyddwch eisiau camu i'r llwyfan, ond, da chi, ewch i weld rhai o gynyrchiadau'r myfyrwyr a chefnogi'r timau chwaraeon, ac ati.聽 Mae yna glybiau a chymdeithasau ar gyfer pob dim.聽 Os yw'r amser sydd gennych i wneud pethau allgyrsiol yn brin oherwydd ymrwymiadau eraill, mae 'na rywbeth yn digwydd yn rhywle drwy'r amser.聽 Mae hyn i gyd yn ffordd o wneud ffrindiau a bod yn rhan o gymuned y myfyrwyr.聽
Cofiwch bob amser eich bod yn rhan o sefydliad rhyfeddol - manteisiwch i'r eithaf ar bob munud yno.聽
Eich Prifysgol chi yw hi, a bydd yn brofiad a fydd yn aros gyda chi am weddill eich oes. Yn anad dim - MWYNHEWCH EICH HUNAIN.
Awgrymiadau Stevie i Fyfyrwyr H欧n
- Peidiwch 芒 meddwl y dylech chi wybod pethau dim ond oherwydd eich bod yn h欧n na rhai o'r myfyrwyr eraill yn eich gr诺p.聽 Mi fues i'n meddwl hynny - nes i mi sylweddoli鈥�
- Does neb wedi dysgu hyn i fi eto.
- Peidiwch 芒 gadael i'r myfyrwyr iau yn eich gr诺p wneud i chi deimlo yn nerfus. Mwy na thebyg eu bod nhw hyd yn oed yn fwy nerfus ohonoch chi nag ydych chi ohonyn nhw.
- Mae gan bob un ohonoch yr un aseiniadau i'w gwneud a'r un dyddiadau cyflwyno.
- Rydych chi'n gwybod pethau nad ydyn nhw'n eu gwybod - cyllidebu, coginio, gofal iechyd ac ati.
- Maen nhw'n gwybod pethau nad ydych chi'n eu gwybod - technoleg, ffasiwn, cerddoriaeth ac ati.
- RHANNWCH EICH GWYBODAETH am bopeth - dysgwch gyda'ch gilydd. GWNEWCH FFRINDIAU.
- Peidiwch 芒 bod ofn gofyn cwestiynau i'ch tiwtoriaid.聽 Peidiwch 芒 cheisio dyfalu eich ffordd trwy rywbeth nad ydych chi wir yn ei ddeall.
- Does dim angen i chi fod 芒 chywilydd os oes bylchau yn eich addysg.
- Oni bai eich bod yn gofyn am help, bydd eich tiwtor yn tybio eich bod yn ymdopi.
- Os ydych yn cael trafferth - ewch i siarad 芒'ch tiwtor.聽 Weithiau pethau go wahanol sy'n achosi pryder i fyfyrwyr h欧n - gofalon cartref a theulu, gofal plant, ac ati.聽
- Bodau dynol yw tiwtoriaid - maen nhw'n deall bod pethau eraill yn mynd 芒'ch amser hefyd.
- Os na allwch gyrraedd darlith/seminar - cysylltwch 芒'r swyddfa i roi gwybod iddynt.聽 Peidiwch 芒 dibynnu ar fyfyriwr arall i drosglwyddo neges - mi allan nhw anghofio.
- Os oes rhaid i chi fod yn absennol - gofynnwch i rywun a wn芒n nhw rannu eu nodiadau 芒 chi er mwyn i chi gael dal i fyny 芒'r gwaith. Fydd dim un o'r darlithoedd yn cael eu hailadrodd.
- Prynwch recordydd llais a recordio eich darlithoedd (dylech ofyn am ganiat芒d gan y darlithydd).聽
- Gallwch wrando arnynt eto ochr yn ochr 芒'ch nodiadau i ddatblygu eich gwybodaeth a pharatoi at eich arholiadau.
Mae hefyd yn ddefnyddiol i gael cofnod o unrhyw awgrymiadau am ddeunyddiau i'w darllen a gewch yn ystod y ddarlith. Fe ddaw'r geiriau atoch yn un llifeiriant.