Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
1. C. A gaf i brynu diwrnodau sengl, neu a gaf i brynu blociau o wythnosau yn unig?
A. Bydd gofyn i chi ddewis nifer yr oriau yr hoffech eu prynu ar system I Trent (yn hytrach na dyddiau ac wythnosau). Ar hyn o bryd nid oes uchafswm o ran nifer yr oriau y cewch eu prynu mewn unrhyw gyfnod gwyliau neilltuol yn unol ag amcanion presennol y Brifysgol. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ddiwygio hynny ar unrhyw adeg yn y dyfodol.
2. C. Sut mae gwneud cais?
A. Yn gyntaf, trafodwch gyda'r Rheolwr Llinell a llenwi鈥檙 ffurflen gais sydd ar gael ar borth Hunanwasanaeth I Trent.
Yna bydd y cais yn mynd at eich rheolwr llinell i鈥檞 adolygu. Caiff y cais naill ai ei gymeradwyo neu ei wrthod, ac ar 么l hynny caiff ei anfon ymlaen at yr Adnoddau Dynol.
Os caiff ei gymeradwyo, bydd yr Adnoddau Dynol yn rhoi cytundeb aberthu cyflog i chi ei adolygu a鈥檌 e-arwyddo yn I Trent.
3. Pryd caf i wneud cais?
A. Gwnewch eich cais cyn dechrau'r flwyddyn wyliau yn ystod y cyfnod perthnasol (Mehefin/Gorffennaf fel arfer). Sicrhewch fod gan eich rheolwr ddigon o amser i ystyried y cais a sut y gellid ei ganiat谩u.
4. C. Sut byddaf yn talu am y gwyliau ychwanegol y byddaf yn eu prynu?
A. Byddwch yn talu trwy ostwng eich cyflog tan ddiwedd blwyddyn y gwyliau blynyddol sy'n cyfateb i'r cyflog am nifer yr oriau y gwnaethoch chi ofyn amdanynt. Caiff y taliadau eu rhannu'n gyfartal dros y flwyddyn o'r dyddiad y daw'r gwyliau i rym (12 taliad o fis Awst).
Mae'n bosib prynu gwyliau ychwanegol trwy drefniant aberthu cyflog. Mae aberthu cyflog yn gytundeb rhwng y Brifysgol a鈥檙 aelod o鈥檙 staff i amrywio鈥檙 telerau ac amodau cyflogaeth i leihau鈥檙 hawl i d芒l ariannol, yn gyfnewid am fudd anariannol. Y budd anariannol yn yr achos hwn yw gwyliau blynyddol ychwanegol. Mae鈥檙 trefniant i aberthu cyflog yn fuddiol yn ariannol oherwydd bod y budd anariannol (gwyliau ychwanegol) wedi鈥檌 eithrio rhag y dreth a chyfraniadau yswiriant gwladol.
5. C. Faint fyddaf yn ei arbed ar gost prynu diwrnodau ychwanegol, o ystyried eu bod yn cael eu prynu trwy drefniant aberthu cyflog?
A. Nid yw gwyliau blynyddol ychwanegol yn fuddiant trethadwy, ac felly nid oes treth incwm nac yswiriant gwladol (YG) yn daladwy ar werth y diwrnodau a brynwch. Mae hynny鈥檔 golygu y caiff y gost net ei lleihau hyd at 33% i drethdalwr sydd ar y gyfradd sylfaenol a 41% i drethdalwr sydd ar y gyfradd uwch. Gallai鈥檙 unigolyn ystyried defnyddio cyfrifiannell y cyflogau uchod, neu gyfrifiannell ar-lein arall debyg i gyfrifo鈥檙 arbedion tebygol ar sail eu sefyllfa o ran cyflog a threth.
6. C. A oes unrhyw gostau eraill?
A. Nac oes 鈥� does dim costau ychwanegol.
7. C. Beth fydd effaith prynu gwyliau ychwanegol ar fy mhensiwn?
A. Ni fydd dim effaith ar eich pensiwn. Bydd eich didyniadau pensiwn yn parhau i gael eu gwneud o鈥檙 cyflog gros.
8.. C. A oes uchafswm oriau y caf eu prynu?
A. Nac oes 鈥� ar hyn o bryd mae'r Brifysgol wedi ehangu鈥檙 swm y caiff unigolion ymgeisio amdano ac nid oes uchafswm o ran nifer yr oriau. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ddiwygio hynny fel bo angen at y dyfodol.
9. C. Rwy'n gweithio'n rhan-amser, a yw'r diwrnodau ar sail pro-rata?
A. bydd gofyn i chi ddewis faint o oriau yr hoffech eu prynu yn y system ac os c芒nt eu cymeradwyo bydd y rheini wedyn yn cael eu hychwanegu at falans eich gwyliau blynyddol i'w defnyddio o gwmpas eich patrwm gweithio rhan amser.
10. C. A oes angen rhesymau arbennig arnaf i brynu gwyliau ychwanegol?
A. Nac oes.
11. C. A oes hyd gwasanaeth neilltuol yngl欧n 芒 phrynu gwyliau ychwanegol?
A. Nac oes, caiff unrhyw aelod o鈥檙 staff wneud cais cyn belled 芒'u bod yn bodloni'r meini prawf cymhwystra sydd yn y polisi.
12. C. A yw鈥檔 bosib gwrthod fy nghais i brynu gwyliau ychwanegol?
A. Ydi, os nad yw鈥檔 bosib caniat谩u鈥檙 cais, er enghraifft, oherwydd anghenion gweithredol y gwaith, bydd gan eich Rheolwr Llinell yr hawl i wrthod eich cais a thrafod y rhesymau dros hynny gyda chi.
13. C. A gaf i gario'r gwyliau a brynaf drosodd i'r flwyddyn wyliau nesaf?
A. Na chewch, rhaid defnyddio'r gwyliau yn y flwyddyn wyliau y cawsant eu prynu oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn eich atal rhag cymryd y gwyliau. Tybir, felly, mai鈥檙 gwyliau ychwanegol a brynwyd a gaiff eu defnyddio鈥檔 gyntaf.
14. C. Beth fydd yn digwydd os byddaf yn s芒l yn ystod yr absenoldeb?
A. Byddai鈥檙 rheolau arferol yn berthnasol yn unol 芒 manylion y Polisi Rheoli Presenoldeb sydd ar gael gan yr Adran Adnoddau Dynol.
15. C. Wrth wneud y cais a oes rhaid imi nodi pryd y bwriadaf gymryd y gwyliau ychwanegol?
A. Byddai hynny鈥檔 hwylus i'r Rheolwr sy鈥檔 ystyried eich cais, a gallai fod yn rhan o'r drafodaeth gyda'r Rheolwr, er nad yw'r polisi鈥檔 dweud bod angen nodi dyddiadau penodol wrth wneud y cais.
16. C. Beth ddigwyddith os byddaf yn newid fy meddwl ar 么l cymeradwyo鈥檙 gwyliau ychwanegol a bod y didyniadau o'r t芒l wedi dechrau?
A. Unwaith y caiff y cais ei dderbyn bydd yn gytundeb rhwymol ac ni fydd yn bosib ei newid oni bai bod amgylchiadau eithriadol. Mae鈥檙 amgylchiadau hynny鈥檔 cynnwys newid sylfaenol mewn bywyd, a fyddai'n cynnwys: priodi neu ysgaru, salwch difrifol ar yr aelod o鈥檙 staff neu aelod o'r teulu, gorfod gostwng eich oriau gwaith neu eich cyflog, neu eich bod chi neu'ch partner yn wynebu'r posiblrwydd o golli swydd
17. C. Beth fydd yn digwydd os byddaf yn newid swydd yn ystod y flwyddyn wyliau?
A. Bydd eich gwyliau blynyddol a balans y gwyliau blynyddol a brynwch yn mynd gyda chi i鈥檙 swydd newydd (a byddent yn cael eu haddasu yn 么l yr angen os bydd unrhyw delerau鈥檔 newid e.e. oriau gwaith, hyd y contract)
18. C. Beth fydd yn digwydd os bydd cyfradd fy nh芒l yn newid yn ystod y flwyddyn wyliau, er imi barhau yn yr un swydd, er enghraifft, derbyn dyfarniad cyflog?
A. Bydd gwerth y gwyliau a brynwyd yn aros yr un fath, yn seiliedig ar y cyflog a oedd yn daladwy pan gafodd y cytundeb ei wneud. Fodd bynnag, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ailgyfrifo gwerth y didyniadau.
19. C. A yw'r polisi鈥檔 golygu y caf werthu rhywfaint o'm gwyliau?
A. Nac ydyw, nid yw'n bosibl gwerthu eich gwyliau.
20. C. A yw prynu gwyliau ychwanegol yn effeithio ar fy hawl i fudd-daliadau'r wladwriaeth?
A. Os ydych yn derbyn budd-daliadau fel Credydau Treth Plant neu Gredydau Treth Gwaith mae'r taliadau'n seiliedig ar eich incwm yn y flwyddyn dreth flaenorol. Os ydych wedi prynu gwyliau ychwanegol ac rydych yn gwneud cais newydd, dylech ddefnyddio eich ffigur cyflog diwygiedig wrth wneud y cais. Mae help a chyngor ar gael ar y wefan www.hmrc.gov.uk.
21. C. Beth fydd yn digwydd os byddaf yn mynd ar gyfnod o absenoldeb di-d芒l?
A. Caniateir i chi atal taliadau aberthu cyflog nes byddwch yn dychwelyd i'r gwaith. Caiff buddion megis T芒l Salwch Statudol a Th芒l Mamolaeth Statudol eu cyfrifo ar sail y cyflog gros gostyngol a all arwain at werth is i'r buddion hynny. Os na fyddwch yn dychwelyd i'r gwaith, caiff unrhyw arian sy'n weddill ei gasglu o'r cyflog terfynol.
22. C. Mae gennyf fwy nag un swydd yn y Brifysgol, a fyddaf yn cael defnyddio fy hawl i brynu gwyliau ym mhob r么l?
A. Na fyddwch, mae'r hawl ychwanegol yn benodol i'r swydd ac ar sail pro-rata. Byddai angen gwneud cais ar wah芒n ar gyfer y rolau eraill sydd gennych.
23. C. Awdurdododd fy Rheolwr Llinell y cais, a oes angen i'r Pennaeth Ysgol/Cyfarwyddwr ei gymeradwyo hefyd?
A. Nac oes, bydd y system yn ei gwneud yn ofynnol i'ch rheolwr llinell gymeradwyo'r cais, er efallai y bydd am rannu ceisiadau gyda Phennaeth yr Ysgol/Cyfarwyddwr i鈥檞 hadolygu (yn enwedig os oes disgwyl nifer fawr o geisiadau mewn unrhyw Ysgol/Adran).
24. C. Beth ddigwyddith os byddaf yn gadael y Brifysgol yn ystod cyfnod y taliadau?
A: Bydd I Trent yn didynnu鈥檙 taliadau misol dyledus sy鈥檔 weddill am y gwyliau blynyddol a brynwyd o鈥檆h cyflog terfynol yn awtomatig, ac os caiff eich gwyliau blynyddol arferol eu haddasu pro rata, byddai unrhyw wyliau a brynwyd i鈥檞 gweld yn llawn ar eich cofnod ac fel rhan o gyfanswm eich hawl i wyliau.