Gynlluniau Gofal Plant 2017
Bydd ein cynllun talebau gofal plant presennol, a redir gan Sodexo, yn cael ei ddisodli gan raglen Gofal Plant Di-dreth newydd y llywodraeth yn 2017.
Darllenwch y posteri ynghlwm sy'n egluro'r prif newidiadau a'r gwahaniaethau rhwng y ddau gynllun.
Mae newidiadau sylweddol, ac mae'r cynllun sy'n gweddu orau i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol.
- Os ydych eisoes yn aelod o'r cynllun presennol, neu'n ymuno 芒'r cynllun presennol cyn i'r rhaglen Gofal Plant Di-dreth gael ei chyflwyno, gallwch ddewis a ydych am newid i'r un newydd neu aros gyda'r cynllun presennol.
- Ond caniateir i'r rhai sydd eisiau gwneud cais am gymorth ar 么l i'r Gofal Plant Di-dreth gael ei gyflwyno, ymuno 芒'r rhaglen newydd yn unig.
*Mae hyn yn ei gwneud hi hyd yn oed yn bwysicach i'r rhai sy'n gofalu am blant ymuno 芒'r cynllun presennol cyn gynted 芒 phosibl*
Gall unrhyw un sydd 芒 phlant hyd at 15 oed (neu 16 os ydynt wedi'u cofrestru’n anabl) wneud cais am dalebau. Gall yr arbedion fod yn rhai sylweddol. Gallech arbed hyd at 拢993 neu 拢1,866 os bydd eich partner hefyd yn dewis cymryd talebau.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i ymuno 芒'r cynllun Sodexo, clicwch yma neu cysylltwch 芒 Bethan Williams yn benefits@bangor.ac.uk