Gwybodaeth i Staff
Staff Goruchwyliol
Mae’r aelodau staff hynny ac eraill sy’n gweithredu mewn r么l oruchwyliol, megis Darlithwyr a Hyfforddwyr, yn gyfrifol am gynnal eu gweithgareddau eu hunain, a’r gweithgareddau hynny y mae ganddynt reolaeth drostynt, mewn modd diogel ac yn unol 芒 Pholisi Iechyd a Diogelwch y Brifysgol.
Rhaid i staff goruchwyliol, myfyrwyr ac eraill, sicrhau eu bod hwy, ynghyd 芒 gweithwyr a myfyrwyr dan eu rheolaeth, yn gwybod ac yn deall eu cyfrifoldebau o dan Bolisi Iechyd a Diogelwch y Brifysgol. 聽Rhaid iddynt ofalu y cymerir yr holl ragofalon rhesymol pan fyddant 芒 gofal am fyfyrwyr, gweithwyr ymchwil, gweithwyr, gwirfoddolwyr neu ymwelwyr, naill ai’n unigol neu mewn grwpiau, er mwyn sicrhau, cyn belled ag y bo’n ymarferol bosibl, ddiogelwch y bobl hynny.
Mae’r term ‘staff goruchwylio’ yn cynnwys staff academaidd yn eu swyddogaeth fel goruchwylwyr myfyrwyr a staff sy’n gwneud ymchwil ac yn ystod gweithgarwch arall a gyfarwyddir.聽 聽