Mae'r Cytuniad Plastigau Byd-eang yn ymdrech fyd-eang uchelgeisiol i roi terfyn ar lygredd plastig. Y cyfarfod hwn yn y Swistir, gyda’r United Nations Intergovernmental Negotiating Committee (INC-5.2), fydd rownd olaf y trafodaethau. Yma, bydd cynrychiolwyr o 175 o aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig yn ymgynnull i ddatblygu a chytuno ar gytuniad gyfreithiol-rwym sy'n mynd i'r afael â chylch bywyd llawn plastigau (o echdynnu adnoddau, hyd at waredu).
Bydd Winnie yn arsylwi'r trafodaethau wrth iddynt fynd rhagddynt dros y pythefnos nesaf (3 - 15 Awst), ac yn cyfrannu tystiolaeth wyddonol, yn ogystal â chwrdd â gwyddonwyr a chynrychiolwyr eraill o bob cwr o'r byd.
Mae llygredd plastig yn argyfwng byd-eang, ac mae tystiolaeth yn dangos ei fod yn niweidiol i iechyd pobl a'r amgylchedd. Mae dros 450 miliwn tunnell o blastig yn cael eu cynhyrchu bob blwyddyn, a rhagwelir y bydd y ffigur hwn yn dyblu o fewn yr ugain mlynedd nesaf, os na chymerir camau ystyrlon. Felly, mae'r cytuniad plastigau byd-eang yn gyfle digynsail i orfodi gweithredu byd-eang.
Dros y degawd diwethaf, mae Winnie wedi bod yn astudio ffynonellau ac effeithiau llygredd (micro)plastigau, a rhai o'r atebion sy'n cael eu cynnig. Mae hi wedi cymryd rhan yn y trafodaethau rhyngwladol ynglŷn â llunio a chwblhau'r cytuniad ers y cychwyn cyntaf.
Bydd Winnie yn ymuno ag aelodau o’r , lle mae hi'n arweinydd gweithgor, i gefnogi galwadau am gytundeb sy’n seiliedig ar dystiolaeth wyddonol gadarn.

Mae’r Cytuniad Plastigau Byd-eang yn gyfle hanesyddol i ddiogelu iechyd pobl a’r amgylchedd.
Mae llygredd plastig yn broblem fyd-eang go iawn; mae plastigau ym mhob cwr o'r amgylchedd, o gopaon mynyddoedd i waelod y môr. Mae tystiolaeth wyddonol glir ar gael o effeithiau niweidiol llygredd plastig ar raddfa fyd-eang. Mae hyn yn cynnwys niwed i anifeiliaid a'r amgylchedd, niwed i gymdeithasau, a niwed i iechyd pobl. Gan fod cynhyrchu plastig yn parhau i gynyddu, dim ond gwaethygu bydd yr effeithiau hyn. Dyna pam mae angen camau gweithredu ystyrlon a chyfunol trwy gytuniad uchelgeisiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

