Tasg y pedwar ar ddeg a ymgeisiodd oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau, gyda Medal Goffa Daniel Owen a’r nofel gyhoeddedig yn wobr.
Y beirniaid oedd Mari Emlyn, Alun Davies a Haf Llewelyn, ac yn ei beirniadaeth hi, dywed Mari Emlyn, “Gwyddwn fy mod mewn dwylo diogel o’r cychwyn yng nghwmni’r llenor penigamp hwn er nad dyma’r math o nofel sydd fel arfer at fy nant.
“Strwythurir y nofel yn glyfar iawn fel drama glasurol Shakespearaidd gyda’i phump act, er bod yr awdur hwn, diolch i’r drefn, yn gwrthod y demtasiwn i gynnwys y éԴdzܱԳ, gan gyfiawnhau hynny ar y diwedd drwy ddweud, ‘Nid yw bywyd go-iawn yn dwt.’
“Mae’r nofel yn daith drwy amser gan rychwantu bron i ddwy ganrif ac mae’n batrwm o sut i ddefnyddio stôr eithriadol o ymchwil i greu nofel hanesyddol ffantasïol heb i’r ymchwil hwnnw lyncu’r stori... Mae Ozymandias yn llwyr haeddu Gwobr Goffa Daniel Owen.”
Meddai Haf Llewelyn yn ei beirniadaeth hi, “Mae hon wedi bod yn gystadleuaeth arbennig eleni. Hynod felly yw dweud bod ‘Anfarwol’ wedi neidio i’r brig, ac aros yno o’r darlleniad cyntaf un. Rydym yng nghwmni awdur arbennig yma, a theimlaf hi’n fraint fod ymysg y bobl gyntaf i gael darllen y gwaith hwn. O’r dechrau gallwn ymlacio, gan wybod na fyddai Ozymandias yn baglu, a fy mod yng nghwmni awdur hyderus, saernïwr stori gelfydd a dewin geiriau sy’n trin ein hiaith yn goeth ac ystwyth.
“Mae hon yn nofel lwyddiannus iawn a bydd yn ychwanegiad gwerthfawr tu hwnt i fyd y nofel Gymraeg. Llongyfarchiadau mawr i Ozymandias ar ddod i’r brig mewn cystadleuaeth gref. Mentraf ddweud hefyd fod hon yn dod i blith goreuon enillwyr Gwobr Goffa Daniel Owen dros y blynyddoedd.”
Roedd Alun Davies hefyd yn canmol y gwaith buddugol yn ei feirniadaeth, “Gall barnu 14 o nofelau mewn cyfnod cymharol fyr fod yn dasg heriol, ond y wobr i feirniad yw darganfod stori fel ‘Anfarwol’. O ystyried safon yr ymgeiswyr eleni mae’n glod mawr dweud bod stori Ozymandias yn sefyll ben ac ysgwydd uwchlaw’r cystadleuwyr eraill, ac nid yn unig yn haeddu ennill eleni, ond mae’n debyg y byddai wedi codi i’r brig nifer o flynyddoedd eraill hefyd.
“Mae hon wir yn stori syfrdanol sy’n anodd i’w chrynhoi: antur hanesyddol, goruwchnaturiol a gwyddoniasol sydd yn ddoniol, yn gyffrous, yn ysgogol ac yn heriol. Mae’r nofel yn cyffwrdd â marwoldeb, Cymreictod, a’r hyn mae’n ei olygu i fod yn rhan o’r ddynol ryw, a chefais f’ysgogi i fyfyrio ar nifer o gwestiynau rhyfedd a diddorol wrth ddarllen... Mi allwn i ysgrifennu llawer mwy am ‘Anfarwol’, ond dim ond ei darllen all wneud cyfiawnder â’r nofel hon. Enillydd cwbl haeddiannol o’r wobr eleni.”
Daw Peredur Glyn Cwyfan Webb-Davies o ganol Ynys Môn. Aeth i Ysgol Gymuned Bodffordd ac Ysgol Gyfun Llangefni, ble torrodd ei gŵys fel awdur, cyn ennill graddau Bagloriaeth ac MPhil ym Mhrifysgol Caergrawnt mewn Astudiaethau Eingl-Sacsoneg, Norseg a Chelteg. Cwblhaodd ddoethuriaeth mewn Ieithyddiaeth o Brifysgol Bangor yn 2010.
Mae wedi bod yn darlithio ym maes ieithyddiaeth ers dros bymtheng mlynedd. Bellach mae’n Ddarllenydd mewn Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd yn Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor gan addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau a phapurau ysgolheigaidd ar ieithyddiaeth y Gymraeg a’i siaradwyr, gan gynnwys am amrywiaeth sosioieithyddol, newid gramadegol a chyfnewid cod.
Mae’n nofelydd. Ef yw awdur Pumed Gainc y Mabinogi (Y Lolfa, 2022; cyrhaeddodd hon restr fer Llyfr y Flwyddyn 2023) a Cysgod y Mabinogi (Y Lolfa, 2024). Mae’n ysgrifennu o fewn y genre arswyd cosmig, ble mae cymeriadau’n sylweddoli bod pwerau goruwchnaturiol yn bodoli sydd tu hwnt i’w dychymyg, a bod safle pobl yn y bydysawd yn ddi-nod ac yn fyrhoedlog yn wyneb y fath arswydau. Ysgrifennodd y gyfrol Galwad Cthulhu a Straeon Arswyd Eraill (Melin Bapur, 2025), sef y cyfieithiad cyntaf i’r Gymraeg o waith yr awdur Americanaidd dylanwadol, HP Lovecraft.
Enillodd ei daid, y bardd a’r llenor T Glynne Davies, y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1951.
Mae Peredur yn byw ym Mhorthaethwy gyda’i deulu. Mae’n aelod o gorau Hogia Llanbobman a Chôr Esceifiog ac mae’n hoff o chwarae a chasglu gemau bwrdd, fideo a chwarae rôl yn ei amser sbâr.
Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn Is-y-Coed tan 9 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.