Huw Gwynn, Swyddog Hyrwyddo Addysg Uwch drwy’r Gymraeg yng Nghanolfan Bedwyr, (Canolfan Gwasanaethau, Ymchwil a Thechnoleg Cymraeg Prifysgol Bangor) sy’n cyflwyno’r podlediad. Mae swydd Huw yn cael ei hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyllidwyd y podlediad gan Gronfa Bangor, sy’n cynnwys rhoddion gan gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, caiff y gronfa ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni yn y Brifysgol.
Yn ystod y gyfres, bydd Huw yn sgwrsio â chyn fyfyrwyr adnabyddus, gan eu holi am y ffyrdd amrywiol y mae’r Gymraeg wedi eu helpu nhw wedi iddynt gwblhau eu haddysg. Mae’r cyfranwyr yn cynnwys newyddiadurwr y BBC, Liam Evans, y cyflwynydd pêl-droed, Sioned Dafydd, Huw Harvey sy’n aelod o’r grŵp Fleur De Lys a’r chwaraewr rygbi, Teleri Davies.
Nod y podlediad yw defnyddio profiadau’r gwesteion er mwyn annog myfyrwyr chweched dosbarth yn ogystal â myfyrwyr Prifysgol i weld y budd o ddilyn cyrsiau a modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Un sydd wedi gweld budd amlwg o ddefnyddio’r Gymraeg yn ei waith yw’r newyddiadurwr, Liam Evans. Wrth sgwrsio ar y podlediad, dywedodd:
“Gwnaeth fy nghyfnod i ym Mangor wneud i mi deimlo’n gryfach am y Gymraeg. Doedd fy Nghymraeg i ddim ar ei gorau cyn i mi ddod i’r Brifysgol, ond mi roddodd astudio drwy’r Gymraeg y seilwaith cadarn yna i fi benderfynu mynd ymlaen i swyddi, yn hyderus i siarad yr iaith.
“Mae ‘na alw am sgiliau Cymraeg. Dwi’n darlledu’n ddwyieithog y rhan fwyaf o’r amser. Ond faswn i byth wedi cael y cyfle hwnnw heblaw fy mod i’n siarad Cymraeg. Faswn i byth wedi cael fy nhroed i mewn gyda’r BBC heb fy mod i’n ddwyieithog.”
Meddai cyflwynydd y podlediad Huw Gwynn:
"Dwi wir wedi mwynhau sgwrsio gyda gwesteion hynod ddifyr ac amrywiol dros yr wythnosau diwethaf a dod i wybod sut mae'r Gymraeg wedi eu helpu nhw yn eu gyrfaoedd. O wybod sut mae'r Gymraeg wedi cyfrannu at siapio gyrfaoedd llewyrchus, y gobaith ydi y bydd hynny yn ysbrydoli myfyrwyr a darpar-fyfyrwyr i barhau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Hoffwn fynegi fy niolch i Gronfa Bangor y Brifysgol am ariannu datblygu'r podlediad ac i Aled Jones, o gwmni Y Pod am gynhyrchu'r penodau."
