Cafodd yr astudiaeth ryngwladol, a gynhaliwyd gan yr Athro Emeritws Chris Freeman o Brifysgol Bangor, ei chyhoeddi yn
Yn y papur, mae鈥檙 Athro Chris Freeman wedi cyd-ysgrifennu erthygl o'r enw Two decades of improved wetland carbon sequestration in northern mid-high latitudes are offset by tropical and southern declines, ynghyd ag awduron o Academi Gwyddorau Tsieina, ac Universit茅 Paris-Saclay, Gif-sur-Yvette, Ffrainc
Mae鈥檙 Athro Chris Freeman, sy鈥檔 Athro Emeritws yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol ym Mhrifysgol Bangor, wedi cyd-ysgrifennu鈥檙 erthygl a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Nature Ecology & Evolution, sef un o brif gyfnodolion gwyddonol y byd.
Mae'r astudiaeth yn mynd i'r afael 芒 bwlch mawr yn y ddealltwriaeth o sut mae gwlyptiroedd yn cyfrannu at ymdrechion i liniaru鈥檙 hinsawdd neu鈥檔 rhwystro鈥檙 ymdrechion hynny, yn enwedig o dan amodau d诺r sy鈥檔 newid. Mae'n gwneud hynny gan ddefnyddio dysgu peirianyddol, data maes helaeth, a setiau data lluosog.
Mae ymchwil yr Athro Freeman ym Mhrifysgol Bangor yn canolbwyntio ar gylchu carbon. Mae ei waith yn fwyaf adnabyddus am ei ddisgrifiad o fecanwaith sy鈥檔 adnabyddus fel clicied ensymig mawndiroedd ac am arsylwi tuedd gynyddol mewn crynodiadau carbon organig hydoddedig dyfrol.

I鈥檙 rhai ohonom sy鈥檔 ymchwilio i fawndiroedd y gogledd, mae wedi bod yn galonogol gweld bod y mawndiroedd hynny wedi bod yn cipio mwy a mwy o CO2 bob blwyddyn ac, felly, eu bod wedi bod yn ein helpu鈥檔 ddiysgog i osgoi effeithiau gwaethaf cynhesu byd-eang. Felly roedd yn hynod bryderus sylweddoli bod yr holl waith da hwnnw'n cael ei danseilio gan ddirywiad annisgwyl yn faint o CO2 a gipiwyd gan fawndiroedd y trofannau a de'r byd.鈥
Yn amlwg, rydym wedi cymryd yn ganiataol ers gormod o amser y gall mawndiroedd y gogledd ein hachub rhag cynhesu byd-eang trychinebus. Os gellir dileu 20 mlynedd o'u manteision o ran diogelu'r hinsawdd o achos dirywiad mewn mannau eraill yn y byd, yna mae'n ymddangos ein bod wir wedi cael ysgytwad bod angen i ni wneud mwy i gyflawni ein rhwymedigaethau o dan yr Agenda Sero Net.