Yn anffodus, ni allwn ond darparu ar gyfer myfyrwyr cofrestredig llawn-amser mewn neuaddau oherwydd rheoleiddio'r Dreth Gyngor.
Byddem yn rhoi'r cyfle i drosglwyddo ystafelloedd ychydig o wythnosau ar 么l dechrau'r tymor. Fodd bynnag, nid ydym yn gallu sicrhau bydd eich dewis o lety ar gael.
Mae Swyddfa Tai Myfyrwyr y Brifysgol ar wah芒n i'r Swyddfa Neuaddau; mae'n cadw cronfa ddata o lety preifat ac yn rhoi gwybodaeth a chymorth. Mae'r swyddfa yn Neuadd Rathbone, ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.
Ff么n: 44 (0)1248 382034
E-bost: studenthousing@bangor.ac.uk
Byddwn yn e-bostio'r holl wybodaeth y byddwch ei hangen atoch pan fydd y system llety yn agor fel isod;
- Derbyniad mis Medi - system yn agor ddiwedd mis Ionawr
- Derbyniad mis Ionawr - system yn agor ganol mis Tachwedd
Oes - mae gennym lefydd penodol i 么l-raddedigion mewn neuaddau preswyl.
Ar hyn o bryd, nid yw'r Brifysgol yn berchen ar nac yn rheoli llety ar gyfer teuloedd. Os ydych yn fyfyriwr sydd yn dod i Fangor gyda'ch teulu, dylech gysylltu gyda Swyddfa Tai Myfyrwyr am gymorth gyda rhentu llety pwrpasol yn y sector breifat.
Swyddfa Tai Myfyrwyr - taimyfyrwyr@bangor.ac.uk +44 (0)1248 382034
Mae gan y Swyddfa Tai Myfyrwyr fwy o gyngor a gwybodaeth.
Gan fod prinder llety teuluol ar gael ym Mangor ar hyn o bryd, rydym yn eich cynghori'n gryf i deithio i'r DU yn unig a dod 芒'ch teulu draw i ymuno 芒 chi ar 么l i chi ddod o hyd i lety addas.
Cewch dalu ffioedd eich llety yn llawn pan gyrhaeddwch neu wrth gofrestru, neu mewn rhandaliadau. Bydd gennych gyfrif gyda Phrifysgol Bangor a rhoddir yr holl ffioedd llety a'r ffioedd hyfforddi ar y cyfrif hwn. Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dewis gwneud taliad i'r Brifysgol mewn tri rhandaliad. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn anfon manylion llawn atoch yn eich Dyddiadur Wythnos Groeso pan gewch eich derbyn i'r Brifysgol a gallwch eu gweld hefyd ar .
Na fydd. Ni fydd y neuaddau'n barod cyn y dyddiad a nodir yn y manylion cyrraedd.
Os ydych yn dymuno aros yng Ngogledd Cymru cyn y dyddiad cyrraedd a roddwyd i chi, cysylltwch 芒 Thwristiaeth Gogledd Cymru ar +44 (0) 1492 531731 neu am fanylion llety a gymeradwyir gan Fwrdd Croeso Cymru. Mae gan y Brifysgol neuadd tymor byr ym Mhentref Ffriddoedd, cysylltwch 芒 swyddfa'r neuaddau drwy e-bostio neuaddau@bangor.ac.uk i wneud ymholiadau pellach a gwirio argaeledd.
Mae llety i 么l-raddedigion ar gael ar gytundeb 12 mis. Cewch wybod yr union ddyddiadau yn eich Cytundeb Preswyl.
Os oes gennych anabledd sy'n effeithio ar y math o lety rydych ei angen, cysylltwch 芒 ni i drafod yr opsiynau sydd ar gael.
Defnyddir gwybodaeth am anableddau at ddibenion pennu llety addas yn unig. Ni allwn warantu y bydd cyfleusterau addas ar gael. Rydym yn annog myfyrwyr sydd ag anableddau, gan gynnwys anableddau 'cudd', fel epilepsi neu glefyd siwgr, i gysylltu 芒'r cynghorwr anabledd ar y rhif ff么n: 44 (0)1248 382032 neu e-bost: gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk Bydd y cynghorwr yn gallu trafod unrhyw anghenion am gymorth a fydd gennych, yn ogystal 芒'ch cymhwyster ar gyfer cyllid ychwanegol.
Os byddwch yn cyrraedd yn hwyr mae'n RHAID i chi roi gwybod i'r Swyddfa Neuaddau. Mae ffioedd yn daladwy o ddechrau'r Cytundeb Preswylio yn mhob achos.
Nac oes. Yn anffodus, ni allwn gynnig storio unrhyw beth yn ystod y gwyliau.
Nid oes llawer o le i gadw pethau mewn ystafelloedd myfyrwyr mewn unrhyw brifysgol. Rydym yn argymell eich bod yn dod 芒'r pethau yr ydych yn eu hystyried yn hanfodol y unig. Os anghofiwch unrhyw beth, mae digon o siopau ym Mangor. Dyma rai pwyntiau allweddol:-
- Ni ddarperir dillad gwely, ond gallwch brynu pecynnau dillad gwely pan gyrhaeddwch (duvet, gorchudd duvet, cynfas, gobennydd a gorchudd gobennydd).
- Bydd angen Tystysgrif Prawf Offer Cludadwy ar gyfer offer trydanol sydd dros flwydd oed.
- Mae'n ddrwg gennym nad oes lle ar gael i gadw eiddo dros ben neu fagiau mawr.
- Bydd myfyrwyr hunanarlwyo angen dod 芒 llestri, sosbenni a chyllyll a ffyrc gyda nhw, oherwydd ni ddarperir y rhain.
Mae synnwyr digrifwch, goddefgarwch tuag at gymdogion a pharodrwydd i roi cynnig ar bethau newydd, gan gynnwys dechrau sgyrsiau gyda dieithriaid llwyr, i gyd yn ddefnyddiol.
Mae pob ystafell wedi'i chysylltu 芒'r rhyngrwyd ac mae'r gost am ddefnyddio'r rhyngrwyd yn cael ei gynnwys yn y ffioedd Neuaddau.
Mae croeso i chi ddod 芒 theledu gyda chi ond byddwch angen eich trwydded eich hun. Ni allwn sicrhau y bydd derbyniad da ym mhob un o'n hystafelloedd ac nid ydym fel rheol yn darparu cyswllt erial. Bydd angen i chi gael erial i'w ddefnyddio i mewn bron bob amser. Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis gwylio teledu drwy eu cyfrifiaduron. Sylwer, o 1 Medi 2016 mae newid yn y gyfraith yn golygu bod angen cael trwydded deledu i lawrlwytho neu wylio rhaglenni BBC ar alw ar iPlayer y BBC. Gweithredir hyn yn achos unrhyw declynnau, yn cynnwys teledu clyfar, cyfrifiadur bwrdd gwaith neu liniadur, ff么n symudol, tabled, bocs digidol neu gonsol gemau. Cewch ragor o wybodaeth am yr amrywiaeth o wasanaethau teledu byw sydd ar gael ar ResNet
Gallwch fel rheol. Mae manylion ynghylch sut i gysylltu dyfeisiau eraill heblaw eich cyfrifiadur 芒 ResNet ar gael
Ni chaniateir anifeiliaid anwes o unrhyw fath yn y neuaddau.
Mae nifer cyfyngedig o drwyddedau meysydd parcio ar gael ar gyfer parcio ar y safle (gwnewch gais yn bersonol wrth Gofrestru). Fel arall, bydd rhaid i chi barcio ar y stryd, yn aml peth pellter o'ch neuadd. Mae ychydig o lefydd ar gael i gadw beiciau, OND ni ddylid cadw beiciau mewn neuaddau, gan gynnwys eich ystafell wely. Mae yna raciau beiciau y tu allan i nifer o neuaddau. Mae gennym hefyd nifer cyfyngedig o leoedd o fewn siediau beic gorchuddiedig ar bob un o'n pentrefi myfyrwyr. Bydd myfyrwyr yn gallu archebu ymlaen llaw a phrynu allwedd ar gyfer y siediau beiciau dan do cyn cyrraedd drwy ein siop ar-lein. Y gost yw 拢20 am y flwyddyn. Os byddwch yn cwblhau eich archeb cyn i chi gyrraedd Bangor, bydd allwedd sied y beic yn cael ei rhoi i chi gyda mynediad allweddol eich ystafell. Fodd bynnag, gellir gwneud hyn ar 么l i chi gyrraedd os yw'n well gennych neu os nad oes gennych eich beic eto. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol mai dim ond ychydig o leoedd sydd gennym ar y ddau bentref.
Oes, mae ychydig o bethau na chaniateir: Peidiwch 芒 dod 芒 gwresogyddion, canhwyllau, lampau olew, ffyn arogldarthau, offer coginio trydanol nac oergelloedd i'w defnyddio yn eich ystafell wely. Cewch ddod ag oergell fechan at ddibenion meddygol yn unig. Cysylltwch 芒'r Swyddfa Neuaddau i gael caniat芒d. Peidiwch 芒 dod ag arfau o unrhyw fath - dim replica hyd yn oed. Peidiwch 芒 dod 芒 dodrefn, e.e. gwely, wardrob neu gadair freichiau - fyddan nhw ddim yn ffitio! Ni chaniateir anifeiliaid anwes o unrhyw fath. Mae hyn yn cynnwys pysgod.
Mae'r Brifysgol wedi trefnu yswiriant cynnwys sylfaenol gan Cover4insurance
Mae'r Brifysgol yn sicrhau ystafell i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n gwneud cais llety ac yn cael ei wneud yn ddi amod erbyn 7 Awst.
Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am ymddygiad unrhyw un o'u hymwelwyr i'r neuadd. Caniateir un ymwelydd dros nos am hyd at 2 ddiwrnod ar y mwyaf mewn unrhyw gyfnod o 7 niwrnod. Disgwylir i ymwelwyr gysylltu 芒'u cyd-breswylwyr a'u cymdogion cyn gwahodd gwesteion, a rhaid cofrestru bob gwestai.
Mae gan neuaddau Uwch Wardeiniaid ac Wardeiniaid ar alwad i'ch helpu chi. Yn yr Wythnos Groeso, bydd arweinwyr cyfoed myfyrwyr ar gael i'ch cynorthwyo hefyd. Gall y Swyddfa Neuaddau helpu gydag unrhyw broblemau'n ymwneud 芒'ch taliadau ystafell neu ffioedd. Bydd arweinwyr cyfoed ac aelodau o d卯m y Warden ar gael pan fyddwch yn cyrraedd.
Cysylltwch yn uniongyrchol 芒'r Swyddfa Neuaddau.
- Ff么n: 44 (0)1248 382667
- E-bost: neuaddau@bangor.ac.uk
RHOWCH EICH RHIF MYNEDIAD PRIFYSGOL BOB AMSER GYDAG UNRHYW YMHOLIAD.

Arweiniad Cam-wrth-Gam Gwneud Cais am Lety
Os ydych wedi dewis Bangor fel eich Dewis Cadarn, byddwch yn derbyn e-bost gan y T卯m Neuaddau Preswyl gyda linc i ddewis eich ystafell mewn Neuadd. Cymrwch olwg ar ein harweiniad cam-wrth-gam ar sut i wneud cais ar-lein am lety.