Beth fydd yn digwydd os byddaf yn methu鈥檙 flwyddyn ac yn gorfod ei hail-wneud?
Unwaith y bydd eich ysgol a bwrdd arholi鈥檙 brifysgol wedi cyfarfod byddwch yn gallu gweld eich marciau yn 鈥楩yMangor鈥�. Os nad ydych wedi gwneud yn ddigon da i lwyddo鈥檙 flwyddyn, cewch gynnig un neu fwy o鈥檙 dewisiadau canlynol:
- Cewch gyfle i鈥檞 hail-sefyll ym mis Gorffennaf ar gyfer myfyrwyr Israddeig, Awst ar gyfer myfyrwyr 脭l-raddedig
- Cewch gyfle i ail wneud y modiwlau a fethwyd y flwyddyn nesaf
- Cewch gyfle i sefyll y modiwlau a fethwyd fel ymgeisydd allanol y flwyddyn nesaf (e.e. nid oes angen bod yn bresennol yn y brifysgol ac ni cheir mynediad at gyfleusterau鈥檙 brifysgol)
- Mewn amgylchiadau eithriadol efallai y cewch y cyfle i ail-wneud y flwyddyn gyfan
- Cewch gyfle i newid gradd
Oni bai eich bod yn bwriadu ail-sefyll ym mis Gorffennaf/Awst bydd raid i chi lenwi ffurflen Hysbysiad o Fwriad ar Ganolfan Gais fyMangor.
Cyllid
Os byddwch yn penderfynu cymryd dewisiadau 2, 3, 4 neu 5 bydd raid i chi gadw ystyriaethau ariannol mewn cof.
Yn gyffredinol, bydd gan fyfyrwyr sy鈥檔 cael cyllid gan Gyllid Myfyrwyr yr hawl i gael cyllid am hyd eu cwrs gwreiddiol ynghyd ag un flwyddyn ychwanegol, (hynny yw, 4 blynedd o gyllid os ydych yn dilyn cwrs 3 blynedd). Felly, cyn belled 芒 nad ydych wedi cael unrhyw astudiaeth flaenorol ar lefel gradd neu wedi ail-wneud unrhyw flwyddyn academaidd hyd yma, bydd gennych yr hawl i鈥檙 un pecyn o gefnogaeth ariannol yn 2016/17 ag y derbynioch eleni.
Cyn belled 芒鈥檆h bod wedi cofrestru ar gyfer modiwlau yn y ddau semester byddwch yn gymwys i gael cyllid myfyrwyr am y flwyddyn gyfan.
O ran ffioedd dysgu, codir t芒l arnoch fesul modiwl. Bydd y ffi am sefyll arholiad fel ymgeisydd allanol yn amrywio yn dibynnu ar nifer y modiwlau y byddwch yn eu cymryd. I gael yr union gost ewch i: www.bangor.ac.uk/student-administration/fees/includes/euhome1617-cy.pdf
Codir ffioedd lawn ar fyfyrwyr sy鈥檔 cymryd 100 o gredydau neu fwy.
Cyn gynted ag y cewch wybod eich bod yn gorfod ail-wneud y flwyddyn gyfan neu ran o鈥檙 flwyddyn dylech roi gwybod i鈥檆h corff cyllido myfyrwyr. Gellwch ddiwygio eich cais am gyllid myfyrwyr trwy fewngofnodi i鈥檆h cyfrif ar-lein gan ddefnyddio un o鈥檙 cysylltiadau canlynol 芒鈥檙 wefan:
Os ydych wedi astudio cwrs ar lefel gradd yn flaenorol neu wedi ail-wneud unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol, gall effeithio ar eich hawl i gael cyllid myfyrwyr. I weld a oes gennych hawl i gael cyllid dylech gysylltu 芒鈥檆h corff cyllido myfyrwyr neu siarad 芒 staff yn yr Uned Cefnogaeth Ariannol.
Amgylchiadau lliniarol
Os ydych wedi cael salwch, profedigaeth neu gyfrifoldebau gofalu ychwanegol a all fod wedi effeithio ar eich astudiaethau gallwch apelio i鈥檆h sefydliad cyllid myfyrwyr i ddyfarnu blwyddyn arall a gyllidir i chi. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch 芒鈥檙 staff yn yr Uned Cefnogaeth Ariannol neu鈥檙 corff cyllido myfyrwyr.