Arbenigwr mewn brathiadau nadroedd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o鈥檙 perygl yn India
Mae Dr Anita Malhotra, Gwyddonydd a Herpetolegydd ym Mhrifysgol Bangor yn arbenigo mewn ymchwil i nadroedd gwenwynig a'u fenwm ac eleni mae'n cymryd rhan mewn ymgyrch fyd-eang i godi ymwybyddiaeth o鈥檙 perygl.
"Rwy'n cymryd rhan yn yr ymgyrch 鈥榃omen Champions of Snakebite鈥�, gyda鈥檙 bwriad o godi ymwybyddiaeth am y merched sy'n gweithio'n ddiflino bob dydd i liniaru dioddefaint yn sgil brathiadau nadroedd, gan gynnwys yn India," meddai Dr Malhotra.
Mae Dr Malhotra wedi bod yn gweithio yn y maes hwn ers 2013. Mae brathiadau gan nadroedd yn broblem benodol mewn ardaloedd trofannol ac yn India, gwlad enedigol Anita. Yn anffodus, mae India鈥檔 arwain y byd o ran marwolaethau yn sgil brathiadau nadroedd, sy鈥檔 achosi rhywle rhwng 55,000 a 65,000 o farwolaethau bob blwyddyn, sy鈥檔 syfrdanol.
Dim ond ers yn gymharol ddiweddar y mae astudiaethau herpetolegol trylwyr wedi cael eu cynnal yn India ac mae rhywogaethau newydd o nadroedd (rhai gwenwynig a rhai sydd ddim) yn dal i gael eu henwi. Y gyfrinach wrth gynhyrchu gwrth-fenwm effeithiol yw gwybod cymaint ag y gallwn am y nadroedd sy'n brathu pobl, a dim ond ar gyfer 4 rhywogaeth o nadroedd y mae gwrth-fenwm ar gael ar hyn o bryd yn India, ac nid yw鈥檙 nadroedd hynny i鈥檞 gweld hyd yn oed ym mhob rhan o India. Ar y cyd 芒 chydweithredwyr yn yr India, mae Anita wedi bod yn gweithio ar geisio enwi nadroedd newydd a allai fod yn beryglus a chadarnhau ble mae eu canfod, yn ogystal ag astudio eu fenwm, er mwyn ceisio creu gwrth-fenwm mwy effeithiol a fydd o gymorth i achub bywydau.
Dywedodd Dr Malhotra "Mae hon yn broblem enfawr a bydd codi ymwybyddiaeth mewn gwlad mor amrywiol yn gwneud llawer i helpu i atal marwolaethau ac anableddau yn sgil brathiadau nadroedd. Dyna pam fy mod yn cyfrannu fy arbenigedd at yr ymgyrch 鈥淲omen Champions of Snakebite" sy'n cael ei chynnal gan sawl sefydliad megis y Lillian Lincoln Foundation, Health Action International a'r Global Snakebite Initiative sy'n helpu i fynd i'r afael 芒'r broblem hon."
Mae Dr Malhotra yn addysgu ar raddau Swoleg Israddedig Prifysgol Bangor yn ogystal 芒 goruchwylio myfyrwyr MScRes a PhD.
Cewch ragor o wybodaeth drwy fynd i
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2020