
Yn 2025, ymunodd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru 芒'r ar brosiect hanes llafar newydd i gofnodi atgofion garddwyr y gorffennol a'r presennol yng .
Mae'r syniad ar gyfer y prosiect yn deillio gyda Danny Adams, Garddwr ym Modnant, a deimlai bwysigrwydd cofnodi profiadau bywyd a gwybodaeth eang ei ragflaenwyr a'i gydweithwyr, y mae llawer ohonynt wedi gweithio ar y safle ers bron i ddeugain mlynedd. Penodwyd dau Intern Ymchwil Hanes Llafar 么l-raddedig, Anna Reynolds a Sam Trethouen-Haycox, gan ein Sefydliad i greu recordiadau hanes llafar ac archif o ffotograffau hanesyddol a memorabilia. Cynhaliwyd llawer o'r cyfweliadau ar y safle ym Modnant i gyfoethogi'r cyd-destun. Gobeithir y bydd y deunydd a gesglir yn sicrhau y bydd bywydau a phrofiadau'r garddwyr yn cael eu hymgorffori'n fwy llawn yn 'stori' Bodnant a sut y caiff ei gyflwyno i'w ymwelwyr.
Mae'r prosiect hwn yn parhau ac rydym yn bwriadu rhannu diweddariadau rheolaidd wrth iddo fynd yn ei flaen.