Fy enw i yw Evie Mainwaring, rwy'n dod yn wreiddiol o Bontypridd yn ne Cymru, ond symudais i Loegr pan oeddwn yn 14 oed. Rwyf bellach yn byw ger Y Felinheli ers 5 mlynedd. Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio fel Gwyddonydd Labordy yn Pennotec. Mae Pennotec yn fusnes Biotechnoleg wedi'i leoli ger Pwllheli, Gwynedd, sy'n ymgymryd 芒 datrysiadau economi gylchol gynaliadwy i liniaru amrywiaeth o broblemau amgylcheddol.
Rwyf wedi graddio gyda gradd Anrhydedd mewn Bioleg M么r ac Eigioneg a gradd Meistr mewn Bioleg M么r o Brifysgol Bangor. Penderfynais astudio bioleg m么r ym Mhrifysgol Bangor oherwydd lleoliad y brifysgol ond hefyd y cydrannau labordy a gwaith maes, a oedd yn caniat谩u i mi wella fy sgiliau gwaith maes. Roeddwn hefyd yn gwerthfawrogi fod Prifysgol Bangor yn cynnig mynediad am ddim i gymdeithasau, a oedd yn fy ngalluogi i fynd i blymio鈥檔 aml gyda Sub Aqua, gan arwain at ennill fy nghymhwyster siwt sych.
Mae Bangor wedi鈥檌 hamgylchynu gan harddwch naturiol, o鈥檙 mynyddoedd i鈥檙 traethau, ac mae鈥檔 wych i astudio bioleg m么r a chydrannau daearyddol eigioneg.
Wrth weithio鈥檔 galed a bod 芒 natur benderfynol, llwyddais i ennill Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf a Rhagoriaeth yn fy ngradd meistr. Roeddwn yn ffodus iawn i dderbyn Ysgoloriaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Athena Swan i allu parhau i astudio fy ngradd Meistr ym Mhrifysgol Bangor. Trwy gydol yr ysgoloriaeth hon, cymerais ran mewn digwyddiadau gan gynnwys un ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched, lle rhannais fy mhrofiadau personol o STEM.
Yn ystod fy ngradd Meistr, cefais hefyd gyfle i ennill profiad labordy rhyngwladol yn Ynysoedd Philippines. Roedd fy ymchwil yn canolbwyntio ar nodi helaethrwydd a dosbarthiad llygredd microblastigion mewn gwaddodion mangrof. Caniataodd y profiad rhyngwladol hwn i mi weithio mewn gwahanol hinsoddau, nid yn unig yn y maes, ond hefyd i brofi gwahanol ddiwylliannau ac amgylcheddau gwaith.
Un o fy nyheadau yw adeiladu ar fy nghefndir mewn bioleg m么r a fy nghariad at ddeifio i gyfrannu at ymchwil a chadwraeth yn uniongyrchol yn yr amgylchedd morol. Rwy鈥檔 gweithio yn Pennotec ar hyn o bryd, ac rwy'n cael mewnwelediad gwerthfawr i brosesau moleciwlaidd sydd yr un mor bwysig wrth ddeall bywyd morol. Rwyf hefyd yn mwynhau heriau ymchwil a datblygu ac ymchwilio i ddulliau i oresgyn yr heriau hyn. Mae'r sgiliau rwy'n eu datblygu yn y labordy yn fy ngalluogi i ymdrin 芒 bioleg m么r o safbwynt biocemegol ac ecolegol, gan fy ngwneud yn fwy cymwys i fynd i'r afael 芒 heriau megis cadw riffiau cwrel trwy ddeall goblygiadau cemegol ar organebau morol. Mae fy r么l bresennol yn Pennotec wedi fy helpu i ehangu fy sgiliau cemeg wrth barhau i gysylltu ag anifeiliaid cramennog ac adnoddau morol cynaliadwy.
Mae fy swydd yn cynnwys casglu a dadansoddi data labordy, datblygu technegau i wella dulliau blaenorol o ddadansoddi bioddeunyddiau a chreu dulliau newydd.
Rwyf hefyd yn datblygu galluoedd mewn cemeg ymarferol, gan gynnwys paratoi citin a chitosan. Yn ogystal 芒 hynny, rwy鈥檔 paratoi adroddiadau technegol mewnol ar gyfer dadansoddi data a gasglwyd a chefnogi'r busnes trwy farchnata-gyfathrebu.
Rwy'n hoff iawn o'r gwerthoedd y mae Pennotec yn canolbwyntio arnynt, megis creu cynhyrchion a phrosesau cynaliadwy sydd o fudd i iechyd, yr amgylchedd a lles cymdeithasol. Mae'r gwaith yma hefyd yn cyd-fynd 芒'm barn ar ddatrysiadau cynaliadwy i liniaru goblygiadau amgylcheddol. Mae barn y cwmni ar yr economi gylchol yn bwysig i gynorthwyo arloesedd cynhyrchion newydd, ond hefyd i wella dulliau a datrysiadau eraill. Hoffwn ychwanegu hefyd fod y t卯m yn groesawgar iawn (waeth faint o gwestiynau rwy鈥檔 gofyn), ac mae鈥檙 saith mis yr wyf wedi bod yma wedi bod yn brysur iawn gyda phrojectau newydd, yr wyf wedi eu mwynhau ac wedi cael y cyfle i ddatblygu sgiliau newydd a chefnogi鈥檙 gwaith o adeiladu ar brofiad blaenorol.
Fy nghynllun wrth symud ymlaen yw parhau i gyfrannu at weledigaeth y cwmni wrth archwilio projectau newydd, yn enwedig projectau newydd a fydd yn canolbwyntio ar fiotechnoleg las. Rwy鈥檔 gyffrous am y cyfle i barhau i weithio gyda Pennotec ac i weithio ar ddatrysiadau arloesol newydd sy鈥檔 harneisio ffynonellau morol ar gyfer cymwysiadau cynaliadwy. Mae hyn yn cyd-fynd yn berffaith 芒 fy nghefndir mewn bioleg m么r, gan ei fod yn caniat谩u i mi integreiddio fy ngwybodaeth am ecosystemau ac organebau morol 芒 biotechnoleg. Drwy barhau gyda Pennotec, rwy鈥檔 gobeithio chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu projectau a datblygu datrysiadau cynaliadwy.
Mae'r interniaeth hon wedi bod yn fuddiol iawn i mi. Mae wedi caniat谩u i mi barhau i fyw yng ngogledd Cymru heb orfod adleoli ar gyfer gyrfa. Byddwn yn argymell i fyfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a chyflogwyr ystyried gwneud cais am interniaethau drwy鈥檙 Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd. I raddedigion fel fi, mae'n rhoi cyfle i ennill profiad ymarferol a datblygu sgiliau ymarferol mewn amgylchedd proffesiynol, sy'n hanfodol ar gyfer gwella rhagolygon gyrfa.
I gyflogwyr, mae'r cynllun hefyd yn ffordd o gael mynediad at raddedigion diweddar ac unigolion sy'n fodlon cyfrannu a dysgu. Ar 么l cael profiad personol o鈥檙 cynllun, rwy鈥檔 credu ei fod yn cynnig budd i bawb sy鈥檔 gysylltiedig. Mae'r cynllun hefyd yn helpu i hysbysebu busnesau lleol yng ngogledd Cymru, gan nad yw llawer o raddedigion yn ymwybodol o'r cyfleoedd sydd mor agos at Fangor, ac felly鈥檔 adleoli. O ganlyniad, mae鈥檙 cynllun hwn yn creu cylch cadarnhaol o ddatblygu economaidd a chydweithio, sydd o fudd i鈥檙 busnes a鈥檙 rhanbarth.
Gair gan Jonathan Williams, Cyfarwyddwr Pennotec
I ddechrau swydd mewn labordai ymchwil a datblygu fel ein un ni, fel arfer mae angen sawl mis o hyfforddiant er mwyn cael dealltwriaeth o sylfaen wyddonol, technegau gwyddonol a thechnolegau鈥檙 busnes cyn y gellir gwneud cyfraniad sylweddol i鈥檙 busnes. Oherwydd hynny, mae recriwtio鈥檔 cynnwys risg y bydd y recriwt a鈥檙 cwmni鈥檔 gwahanu naill ai yn ystod neu鈥檔 syth ar 么l y cyfnod buddsoddi mewn hyfforddiant. Mae'r interniaeth 3 mis a ariennir yn lleihau'r risg hon.
Oherwydd gwybodaeth gefndir ac arbenigedd Evie mewn Bioleg M么r a'r profiad ymchwil ac adrodd perthnasol a gafodd Evie trwy ei gradd Meistr, llwyddodd i wneud cyfraniad diriaethol i'n gweithgareddau ymchwil labordy yn gymharol gynnar yn ei lleoliad.
Mae Evie bob amser yn awyddus i ddysgu a chyfrannu syniadau a mewnwelediadau o safbwynt biolegydd m么r. Ar 么l cwblhau ei hinterniaeth gan ennill profiad labordy gwerthfawr mewn r么l Cynorthwyydd Labordy, cafodd Evie ei dyrchafu鈥檔 Wyddonydd Labordy yn ddiweddar. Mae hi wedi manteisio ar gyfleoedd i gyflwyno ein gweithgarwch ymchwil ar-lein ac mewn gweithdai allanol. Yn y dyfodol, bydd disgwyl i Evie chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad y cwmni i ddatblygu a marchnata cynhwysion morol, a fydd yn datblygu ei chyfleoedd gyrfa yn y dyfodol ymhellach.