Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r MSc Gwyddor Môr ym Mhrifysgol Bangor yn rhaglen flaengar ryngddisgyblaethol sydd wedi’i chynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd am archwilio cymhlethdod yr amgylchedd morol, o ecosystemau arfordirol i brosesau cefnforol byd-eang. Gan gyfuno dulliau ecolegol, ffisegol a chyfrifiadurol, mae'r cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar raddedigion i fynd i'r afael â heriau morol enbyd, o newid hinsawdd a rheoli pysgodfeydd i ynni adnewyddadwy a chadwraeth arfordirol.
Uchafbwyntiau'r rhaglen
- Ymagwedd ryngddisgyblaethol: ennill arbenigedd mewn eigioneg ffisegol, ecoleg y môr, gwyddor pysgodfeydd, ac ynni adnewyddadwy – dewis eich llwybr eich hun drwy'r meysydd pwnc hyn.
- Dysgu yn y maes: cymryd rhan mewn ymchwil arfordirol ac alltraeth, gan weithio gyda setiau data morol byd go iawn.
- Addysgu a arweinir gan ymchwil: elwa o arbenigedd Bangor a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn gwyddor forol ac amgylcheddol.
- Sgiliau parod ar gyfer gyrfa: mae graddedigion wedi'u paratoi'n dda ar gyfer rolau ym maes ymgynghori amgylcheddol, polisi morol, cadwraeth, rheoli pysgodfeydd, ac ymchwil wyddonol.
Mae'r MSc Gwyddor Môr yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd â chefndir mewn gwyddor forol, gwyddor yr amgylchedd, daearyddiaeth, bioleg, neu ddisgyblaethau cysylltiedig sy'n awyddus i ddyfnhau eu dealltwriaeth o systemau morol a datblygu sgiliau ymarferol ar gyfer gyrfaoedd mewn rheoli cefnfor ac arfordir. Os ydych chi'n angerddol am yr amgylchedd morol ac eisiau cyfrannu at ei gadwraeth a'i ddefnydd cynaliadwy, mae'r rhaglen hon ar eich cyfer chi.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r MSc Gwyddor Môr yn rhoi sylfaen gref o ran egwyddorion eigioneg ac ecolegol wrth integreiddio sgiliau technegol ac ymchwil allweddol. Byddwch yn gallu dewis p’run ai datblygu arbenigedd mewn cadwraeth forol, ecoleg cynefinoedd, rheoli pysgodfeydd, neu rôl cefnforoedd mewn rheoleiddio hinsawdd, ochr yn ochr â hyfforddiant ymarferol mewn gwaith maes a dadansoddi data.
Meysydd astudiaeth yn cynnwys:
- hinsawdd a newid yn yr hinsawdd – modiwl sy’n archwilio system hinsawdd y Ddaear, newid hinsawdd y gorffennol a'r dyfodol, cylchrediad cefnforol, a lliniaru effeithiau newid hinsawdd, gan eich helpu i ddeall y cynhesu cyflym diweddar, a'i ganlyniadau byd-eang.
- ecoleg cynefinoedd ac arolwg arfordirol – modiwl sy’n ymdrin ag egwyddorion a thechnegau arolwg ecolegol ar gyfer cynefinoedd arfordirol - trwy waith maes grŵp, dadansoddi ac adrodd ar ffurf broffesiynol.
- cadwraeth forol a rheoli parthau arfordirol – yn y modiwl yma, rydych yn meithrin sgiliau amlddisgyblaethol i fynd i'r afael â materion cadwraeth forol trwy arolygon economaidd-gymdeithasol, fframweithiau cyfreithiol, a rheolaeth integredig ar barthau arfordirol, gan arwain at gyflwyniadau grŵp.
- pysgodfeydd morol – yn ymwneud â physgodfeydd byd-eang, eu heffeithiau ecolegol, dulliau asesu stoc, a chyfathrebu gwyddoniaeth trwy sesiynau ymarferol a thaflen wybodaeth yn seiliedig ar adroddiad SOFIA yr FAO.
- ynni adnewyddadwy morol - mae'r modiwl yma yn archwilio technolegau ynni adnewyddadwy morol, adnoddau, ac effeithiau, gan gyfuno mewnwelediad diwydiant â chysyniadau ynni allweddol, dynameg tonnau llanw, ac adborth amgylcheddol.
- eigioneg ymarferol – modiwl sy’n datblygu eich sgiliau o ran gwaith maes eigioneg, casglu a dadansoddi data, prosesu signalau, ArcGIS, a modelu rhifiadol trwy fordaith ymchwil ymarferol a sesiynau ymarferol.
Cyfleoedd dysgu ac ymchwil ymarferol
Mae’r rhaglen yn pwysleisio profiad ymarferol, gyda chyfleoedd gwaith maes yn amgylcheddau arfordirol a morol amrywiol Gogledd Cymru, yn ogystal â mordeithiau ymchwil ar y môr ar long ymchwil Prifysgol Bangor (os bydd y tywydd yn caniatáu). Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil allweddol, gan gynnwys mapio GIS, modelu cefnforol, a dadansoddi ystadegol, gan sicrhau eich bod wedi paratoi'n dda ar gyfer gyrfaoedd mewn gwyddor forol, cadwraeth a diwydiant.
Project Ymchwil
Elfen allweddol o’r rhaglen yw cynnal projiect ymchwil unigol dan oruchwyliaeth arbenigwr academaidd perthnasol, a’i ysgrifennu wedyn fel papur ar ffurf cyfnodolyn. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi gymhwyso'ch gwybodaeth ddamcaniaethol a'ch sgiliau technegol i bwnc gwyddor forol benodol, gyda'r potensial i gyfrannu at atebion cadwraeth a rheolaeth yn y byd go iawn.
Gyrfaoedd
Mae graddedigion MSc Gwyddor Môr wedi'u paratoi'n dda ar gyfer rolau ym maes ymgynghori amgylcheddol, polisi morol, cadwraeth, rheoli pysgodfeydd, ac ymchwil wyddonol.