Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol, mae'r modiwl hwn yn archwilio arweinyddiaeth mewn cyfnodau o newid sefydliadol. Bydd dysgwyr yn gwerthuso鈥檔 feirniadol, trwy fyfyrio ar wahanol ddamcaniaethau cenedlaethol a rhyngwladol, ar feysydd yn cynnwys rheoli newid, adnabod galluoedd arweinyddol a dylanwad polisi. Mae'n cyfarparu gweithwyr proffesiynol i arwain gwelliant ystyrlon yn hyderus ac yn effeithiol o fewn eu cyd-destunau addysgol eu hunain.
I bwy mae鈥檙 cwrs hwn yn addas?
Ymarferwyr sy'n gweithio ar hyn o bryd yn y sector addysg. Gall hyn gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:
- Uwch arweinwyr
- Athrawon
- Cynorthwywyr addysgu
- Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Ymarferwyr sy'n gweithio yn yr awdurdod lleol
- Partneriaid gwella ysgolion
- Staff Estyn
Pam astudio鈥檙 cwrs?
Erbyn diwedd y modiwl, dylai'r myfyriwr allu:
- Archwilio yn feirniadol gyfraniad arweinyddiaeth at newid a gwelliant sefydliadol llwyddiannus.
- Gwerthuso dadleuon allweddol ynghylch damcaniaethau am reoli newid, ar lefel yr ysgol ac yn ehangach.
- Archwilo galluoedd arweinyddol sydd eu hangen i arwain a gweithredu newid yn effeithiol ar lefel yr ysgol ac yn ehangach.
- Gwerthuso ffactorau mewnol ac allanol, gan gynnwys gorchmynion polisi, sy'n effeithio ar unrhyw newid a gwelliant sefydliadol.
- Cymharu ac adfyfyrio yn feirniadol ar wahanol ddulliau o newid sefydliadol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, a'u cymhwyso i gyd-destun y myfyriwr ei hun.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Mae'r cwrs byr hwn yn rhedeg dros un ar ddeg wythnos. Disgwylir i fyfyrwyr weithio trwy lyfrau gwaith hunan-dywys a mynychu dau ddiwrnod addysgu ar-lein 7 awr dros y penwythnos.
Gwybodaeth am asesiadau
Mae'r modiwl hwn yn gofyn i fyfyrwyr gynhyrchu testun clytwaith 4000 o eiriau sy'n archwilio'r broses o gyflwyno/mireinio agwedd ar arwain newid sefydliadol.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd dysgwyr yn archwilio'r prosesau cymhleth o arwain newid sefydliadol o fewn lleoliadau addysgol, gyda ffocws ar welliant ar lefel yr ysgol ac ar lefelau ehangach. Mae'r modiwl yn archwilio damcaniaethau allweddol yn ymwneud 芒 newid a rheoli newid, gan alluogi myfyrwyr i ymgysylltu'n feirniadol 芒 dadleuon a fframweithiau cyfredol sy'n llunio trawsnewid sefydliadol.
Trwy ddadansoddiad cymharol o ddulliau cenedlaethol a rhyngwladol, bydd dysgwyr yn gwerthuso sut mae ffactorau mewnol - megis galluoedd arweinyddol, dylanwadau allanol a gorchmynion polisi, yn rhyngweithio i yrru neu rwystro newid effeithiol. Anogir myfyrwyr i ystyried enghreifftiau o'r byd go iawn ac ystyried sut mae gwahanol strategaethau'n cyd-fynd 芒 neu'n herio arferion presennol yn eu lleoliadau eu hunain.
Mae'r cwrs yn darparu sylfaen ymarferol a damcaniaethol i weithwyr proffesiynol sy'n edrych i arwain newid yn hyderus ac yn foesegol mewn cyfnodau o ansicrwydd. Rhoddir pwyslais ar ddatblygu mewnwelediad arweinyddol sy'n addasadwy, yn ymwybodol o gyd-destun, ac wedi'i wreiddio mewn dealltwriaeth feirniadol o'r heriau a'r cyfleoedd sy'n bresennol mewn amgylcheddau addysgol deinamig.
Erbyn diwedd y modiwl, bydd myfyrwyr wedi'u cyfarparu i arwain gyda phwrpas, i gymhwyso damcaniaethau arweinyddiaeth allweddol i'w cyd-destun eu hunain, ac i lywio cymhlethdodau gweithredu newid sefydliadol cynaliadwy ac effeithiol.
Gwybodaeth bellach
Mae pob llyfr gwaith ar-lein ar gael yn ddwyieithog. Lle bo modd, cynigir sesiynau cydamserol ar-lein yn y Gymraeg a'r Saesneg. Fodd bynnag, nodwch, os nad oes digon o gyfranogwyr sy'n siarad Cymraeg i alluogi trafodaeth ystyrlon, efallai y cewch wahoddiad i ymuno 芒 sesiwn cyfrwng Saesneg.
Oes angen bod 芒 chymhwyster neu brofiad gwaith penodol?
Mae angen i ymgeiswyr fod 芒 gradd israddedig mewn unrhyw bwnc. Er mwyn cwblhau gweithgareddau myfyriol o fewn y llyfrau gwaith a'r aseiniadau, bydd rhaid i ymgeiswyr hefyd fod mewn r么l gyfredol o fewn y sector addysg.
Lefel o sgiliau iaith Saesneg
Rhugl, os ydych chi am gymryd rhan drwy'r llwybr cyfrwng Cymraeg.
Nid oes angen os ydych chi'n cwblhau'r cwrs drwy gyfrwng y Saesneg.
Gwneud Cais
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn si诺r eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar 么l creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio Israddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGU/HS) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Arwain Newid Sefydliadol: y cod yw: XME-4301; XMC-4301. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster 么l-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach)
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eich ariannu, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido:
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch 鈥榠e鈥 * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o鈥檙 cyllid. Os hoffech gadarnhau 鈥榠e鈥 i鈥檙 cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i鈥檞 uwchlwytho, gallwch uwchlwytho鈥檆h ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol