探花社区

Fy ngwlad:

Athena Swan

Mae  yn cynnig nifer o fanteision i鈥檙 Ysgol a鈥檌 chymuned. Mae'n dangos ein hymrwymiad i symud ymlaen ag agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth ar sail rhyw ac yn gwreiddio egwyddorion Athena Swan yn llawn yn niwylliant Ysgol Busnes Bangor. Mae gweithio tuag at wobr efydd Athena Swan wedi amlygu ein cryfderau gan gynnwys y ffaith bod staff benywaidd Ysgol Busnes Bangor yn llwyddo i gael dyrchafiadau mewnol. Mae hefyd wedi ein helpu i osod targedau newydd ar gyfer gwella cynwysoldeb e.e. rydym yn anelu at gael gwell cydbwysedd rhwng y rhywiau yn holl agweddau ar arweinyddiaeth a threfniadaeth yr Ysgol. Mae鈥檙 Siarter Athena Swan yn fframwaith a ddefnyddir ledled y byd i gefnogi a thrawsnewid cydraddoldeb rhyw mewn ymchwil ac addysg uwch.

Enillodd Ysgol Busnes Bangor y wobr efydd Athena Swan ym mis Tachwedd 2019.

Gwybodaeth am Athena Swan

Sefydlwyd yn 2005 ac mae'n seiliedig ar ddeg egwyddor allweddol yn ymwneud 芒'r agenda cydraddoldeb. Sefydlwyd y siarter yn wreiddiol er mwyn annog a chydnabod yr ymrwymiad i hyrwyddo gyrfaoedd merched ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) ond mae bellach yn cydnabod gwaith a wneir i fynd i鈥檙 afael 芒 chydraddoldeb rhyw yn ehangach.

Dyfernir y wobr Athena Swan gan Uned Her Cydraddoldeb Advance HE, ac mae'r wobr yn ddilys am bum mlynedd. Cafodd y cais am y wobr ei baratoi a鈥檌 gyflwyno gan D卯m Hunanasesu Athena Swan yr Ysgol.

Aelodau Athena SWAN Ysgol Busnes Bangor

Dr Siwan Mitchelmore

Dr Siwan Mitchelmore

Dr Siwan Mitchelmore (Uwch Ddarlithydd mewn Busnes a Rheolaeth)

"Fel Arweinydd SAT Ysgol Busnes Bangor, rwy鈥檔 falch o arwain ein hymrwymiad i gydraddoldeb rhywedd a chynhwysiant drwy Siarter Athena Swan. Mae ein gwaith yn seiliedig ar dystiolaeth, myfyrio a chydweithio, gyda鈥檙 nod o feithrin amgylchedd cefnogol a theg lle gall pob aelod o staff a myfyrwyr ffynnu. Mae鈥檙 cynnydd rydym wedi鈥檌 wneud yn deillio o ymdrechion ar y cyd ein cymuned Ysgol ac rydym yn parhau鈥檔 ymrwymedig i gyflawni newid gwirioneddol a pharhaol drwy weithredu ac ymgysylltu parhaus"

Dr Felix Shi

Dr Cunqiang (Felix) Shi

Dr Cunqiang (Felix) Shi (Darlithydd mewn Rheolaeth)

"Fel eiriolwr cryf dros gydraddoldeb rhywedd, rwyf wedi gweld yn uniongyrchol effaith gadarnhaol menter Athena Swan a鈥檙 cynnydd y mae wedi鈥檌 alluogi ar draws y sector. Wrth i gymunedau staff a myfyrwyr yn addysg uwch y DU ddod yn fwy amrywiol, mae鈥檔 bwysicach nag erioed ein bod yn parhau 芒鈥檙 momentwm hwn ac yn gweithio gyda鈥檔 gilydd i feithrin diwylliant sefydliadol mwy cynhwysol a blaengar.

Fel Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth ac Amgylchedd (CAA) yn Ysgol Busnes Bangor, rwy鈥檔 weithgar mewn addysgu ac ymchwil sy鈥檔 rhoi cydraddoldeb a chynhwysiant wrth galon y drafodaeth. Rwy鈥檔 croesawu鈥檔 fawr unrhyw drafodaeth a chydweithio 芒 chydweithwyr sydd yr un mor ymrwymedig i ysgogi newid ystyrlon."

Mae T卯m Hunanasesu Ysgol Busnes Bangor yn cynnwys yr aelodau staff academaidd a myfyrwyr canlynol:

 

EnwR么l SATR么l yr Ysgol
Nenie Anetekhai Cynrychiolydd Myfyrwyr 脭l-raddMyfyriwr PhD
Riaz AnwarCyfarwyddwr AllgymorthUwch Ddarlithydd mewn Cyfrifeg
Fariba DarabiProfiad MyfyrwyrUwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth
Chris DaviesAsesydd YstadegauDarlithydd mewn Rheolaeth
Clair DoloriertProfiad Myfyrwyr IsraddedigUwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth
Sonya HannaArweinydd Gr诺p Busnes a RheolaethDarlithydd mewn Marchnata
Elizabeth Heyworth-ThomasCyfarwyddwr Cyflogadwyedd a鈥檙 Clinig BusnesUwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth
Bethan HughesAelod Staff ProffesiynolRheolwr yr Ysgol
Edward JonesArweinydd Cyfrwng CymraegUwch Ddarlithydd mewn Economeg
Melanie JonesAelod Staff ProffesiynolGweinyddwr Rhaglen
Sara ParryArweinydd Gr诺p Busnes a RheolaethUwch Ddarlithydd mewn Marchnata
Charlotte RimmerCyfarwyddwr Astudiaethau 脭l-raddDarlithydd mewn Busnes a Marchnata
Ian RobertsCefnogaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a ChynhwysiantDarlithydd mewn Bancio Cynaliadwy a Moesegol
Liam StoneCynrychiolydd Myfyrwyr IsraddedigMyfyriwr Israddedig
Bruce VanstoneDatblygu StaffPennaeth Ysgol Busnes Bangor
Hanxiong ZhangCynnwys y WefanUwch Ddarlithydd mewn Cyllid

Gwreiddio egwyddorion siarter Athena Swan yn Ysgol Busnes Bangor

Mae ein hymrwymiad i Siarter Athena Swan wedi gwreiddio'n ddwfn ar draws pob agwedd o fywyd academaidd a phroffesiynol. Nid yw egwyddorion cydraddoldeb rhyw ac ymarfer cynhwysol yn cael eu gweld fel gofynion cydymffurfio, ond fel gwerthoedd sy'n siapio ein diwylliant gweithio, yn llywio ein haddysgu, ac yn arwain ein hymchwil. Mae ein gweithredoedd yn adlewyrchu cred ysgol-gyfan y bydd cynnydd ystyrlon yn digwydd trwy ymgysylltu dilys, cynrychiolaeth weithredol, a pharodrwydd i ddysgu ac esblygu.

Addysgu a Dysgu

Gyda nifer gynyddol o fyfyrwyr rhyngwladol, ymatebodd Ysgol Busnes Bangor i'r heriau o reoli carfannau mawr ac amrywiol drwy ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan o鈥檔 hymarfer addysgu craidd. Mae modiwlau megis Rheolaeth Strategol Rhyngwladol a Cymhwysedd Proffesiynol bellach yn integreiddio sesiynau ar ddealltwriaeth ddiwylliannol, proffesiynoldeb ac ymddygiad cynhwysol. Mae darlithoedd sy鈥檔 rhoi sylw penodol i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi'u hymgorffori ar draws y cwricwlwm, gan helpu myfyrwyr i ddeall cynnwys academaidd a'r gwerthoedd cynhwysol sy'n sail i lwyddiant proffesiynol.

Mae Clinig Busnes Ysgol Busnes Bangor yn cefnogi ystod eang o fusnesau lleol, gan gynnwys busnesau sy'n cael eu harwain gan fenywod ac unigolion o gefndiroedd lleiafrifol. Mae'r Clinig wedi hwyluso nifer o siaradwyr gwadd mewn nifer o fodiwlau, gan gynnwys arweinwyr benywaidd proffil uchel fel cyn-Brif Swyddog Adnoddau Dynol Harrods ac uwch swyddogion gweithredol o'r GIG a'r sectorau plismona.

Mae ein staff academaidd a phroffesiynol yn mynd ati鈥檔 weithredol i rannu eu teithiau personol drwy weithdai a thrwy fentora myfyrwyr. Er enghraifft, yn ddiweddar, rhannodd darlithydd ei brofiad o fod yn fyfyriwr rhyngwladol anabl, gan ysbrydoli myfyrwyr gyda neges o wytnwch a chefnogaeth. Rydym hefyd yn tynnu sylw at lwyddiannau myfyrwyr fel Kristen, myfyrwraig BSc Bancio a Chyllid a gafodd le yn interniaeth fawreddog 'Young Women into Finance' a gynhigir gan y Soci茅t茅 G茅n茅rale. Roedd hi yn un o ddim ond pump i gael eu dewis o blith dros 10,000 o ymgeiswyr.

Ymchwil ac Effaith

Mae ein seminarau ymchwil yn rheolaidd yn cynnwys ysgolheigion o gefndiroedd sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnig nid yn unig ysbrydoliaeth academaidd ond cynrychiolaeth hanfodol hefyd. Mae'r siaradwyr hyn yn modelu sut y gellir creu llwyddiant academaidd er gwaethaf anghydraddoldebau strwythurol ym maes Addysg Uwch a chymdeithas yn ehangach. Yn fewnol, mae cydweithwyr fel Yener Altunbas yn cynhyrchu ymchwil sy鈥檔 cael effaith fawr ym maes rhywedd a newid hinsawdd. Mae ei ymchwil wedi cyrraedd cynulleidfaoedd ym maes polisi a chynulleidfaoedd ar y cyfryngau, tra bod cydweithwyr eraill yn cyfrannu ymchwil i fenywod mewn chwaraeon, cyflogadwyedd ymhlith grwpiau ecwiti, ac ymarfer ymchwil cynhwysol:

Mae nifer o gyhoeddiadau academaidd, sy鈥檔 fawr eu heffaith, gan ymchwilwyr o Ysgol Busnes Bangor yn ategu ymhellach yr ymrwymiad sydd gennym at amrywiaeth a chynhwysiant:

Mae Dr Charlotte Smith yn arwain ar geisiadau PhD i鈥檙 Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), gan gefnogi mynediad teg at gyllid a llwybrau doethurol. Hefyd, mae cydweithwyr eraill wedi cyhoeddi canllawiau i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa er mwyn hyrwyddo cynhwysiant teg o ran awduraeth academaidd a datblygu syniadau. Er enghraifft, mae rhai cydweithwyr wedi bod yn cyfrannu at Ysgoloriaeth Cynhwysiant Athena Swan Bangor trwy fod yn aelodau o鈥檙 panel cyfweld, er mwyn annog myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig i wneud gradd meistr ym Mangor. 

Dinasyddiaeth ac Adeiladu Cymunedol

Mae mentora yn elfen allweddol o ddatblygu staff yn Ysgol Busnes Bangor. Mae Dr Fariba Darabi yn chwarae rhan arwyddocaol yn y gwaith o gynefino a chefnogi academyddion ar ddechrau eu gyrfa. Mae Dr Felix Shi yn cyfrannu at gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar lefel yr ysgol ac yn genedlaethol, gan gynnwys ar fyrddau ymgynghorol allanol. Cafodd ei gyfraniadau at arweinyddiaeth ym maes cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant eu canmol gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI) mewn archwiliad diweddar.

Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi dilyniant gyrfa ac i ddatblygu arweinyddiaeth menywod mewn addysg uwch, mae'r ysgol yn annog staff i gymryd rhan yn Rhaglen Arweinyddiaeth Aurora sy鈥檔 cael ei gynnal gan Advance HE. Mae sawl aelod o staff academaidd a staff yn y gwasanaethau proffesiynol naill ai wedi cwblhau neu wedi eu cofrestru ar y rhaglen ar hyn o bryd. Mae鈥檙 rhaglen wedi'i chynllunio i alluogi menywod i feddwl amdanyn nhw eu hunain fel arweinwyr ac i ddatblygu'r hyder a'r sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. Mae cymryd rhan yn rhaglen Aurora wedi golygu bod arweinwyr benywaidd yn fwy gweledol o fewn yr Ysgol, ac mae sawl cydweithiwr wedi mynd yn eu blaenau i ymgymryd 芒 rolau allweddol megis bod yn gyfarwyddwyr rhaglenni, yn gadeiryddion pwyllgorau, ac yn gydlynwyr mentora. Rydym yn parhau i hyrwyddo'r cynllun drwy gyfathrebu mewnol, trafodaethau un-i-un ynghylch datblygiad, a phrosesau adolygu perfformiad, gan sicrhau bod yr holl staff cymwys yn ymwybodol o'r cyfle ac yn cael eu cefnogi i wneud cais.

Mae'r podlediad 鈥淧enny for Your Thoughts鈥, sy鈥檔 cael ei gynhyrchu gan Ysgol Busnes Bangor, yn darparu llwyfan ar gyfer deialog gynhwysol. Mae penodau diweddar wedi rhoi sylw i Black Lives Matter, i anghydraddoldebau rhywedd yn y system fudd-daliadau, ac mae cyfweliadau gydag entrepreneuriaid ac arweinwyr benywaidd. Mae data am ymgysylltiad gwrandawyr yn ein helpu i fesur effaith a chyrhaeddiad, gan amlygu gwerth y fenter hon o ran gwreiddio trafodaeth gynhwysol o fewn y parth cyhoeddus.

Rydym yn ymfalch茂o yn ein hymrwymiad i gynhwysiant o ran y Gymraeg. Mae staff yn cyfrannu sylwebaeth ddwyieithog ar faterion cymdeithasol ac economaidd allweddol, gan wneud ymchwil a deialog gyhoeddus yn fwy hygyrch. Caiff cyfathrebu ac addysgu cyfrwng Cymraeg eu cefnogi鈥檔 weithredol ar draws yr Ysgol.

Mae aelodau staff yn cymryd rhan weithredol mewn rhwydweithiau cynhwysiant ledled y brifysgol. Mae un cydweithiwr yn aelod o rwydwaith staff LHDTC+, gan gyfrannu鈥檔 fisol at adolygiadau polisi a mecanweithiau adborth. Mae cydweithiwr arall wedi ymuno 芒'r rhwydwaith niwroamrywiaeth a lansiwyd yn ddiweddar, sy鈥檔 sicrhau cydnabyddiaeth gynyddol o鈥檙 anghenion amrywiol sydd i鈥檞 cael o fewn ein cymuned academaidd.

Mae'r fenter fewnol hon, dan arweiniad Hanxiong Zhang, Siwan Mitchelmore, Elizabeth Heyworth-Thomas, a Heather He, yn hyrwyddo addysg fenter gynaliadwy ac entrepreneuriaeth gymdeithasol gyfrifol, a gall staff a myfyrwyr elwa arni.

Mae Dr Felix Shi, sef Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Ysgol Busnes Bangor, wedi cyfrannu at fenter 鈥痽n Ysgolion Busnes Cymru sy鈥檔 cael ei chynnal gan Brifysgol Abertawe. Mae'r gwaith cydweithredol hwn wedi bod o gymorth i rannu arferion gorau ar draws sefydliadau ac wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar ddatblygiadau parhaus ym maes cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn yr ysgol. Bu'r Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn rhan o鈥檙 gwaith o gyd-greu a gwerthuso deunyddiau cwricwlwm cynhwysol, canllawiau polisi, a phecynnau cymorth ymarferol a gynlluniwyd i ymgorffori egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws arferion addysgu, dysgu a datblygu staff. Drwy gymryd rhan mewn cymuned ymarfer, fe wnaethant gyfrannu mewnwelediadau o gyd-destun Prifysgol Bangor tra鈥檔 dysgu am ddulliau arloesol a fabwysiadwyd ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys fframweithiau sy'n cefnogi cynhwysiant croestoriadol ac arweinyddiaeth academaidd deg. Mae'r cydweithio traws-sefydliadol hwn wedi cael effaith gadarnhaol a mesuradwy ar Ysgol Busnes Bangor. Mae wedi llywio鈥檙 gwaith o fireinio ein hymagwedd tuag at gwricwlwm cynhwysol, wedi cynorthwyo yn y gwaith o ailgynllunio ein deunyddiau cynefino a hyfforddi yn nghyd-destun cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac wedi annog rhagor o staff i fabwysiadu addysgeg gynhwysol ar draws ein timau addysgu. Mae hefyd yn enghraifft o sut mae arweinyddiaeth ein swyddogaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn troi eu golygon at allan ac yn dangos ymrwymiad Ysgol Busnes Bangor i gyfrannu at newid ledled y sector.

Yn 2022, rhoddodd yr ysgol gefnogaeth i fyfyriwr PhD trwy鈥檙 rhaglen CARA, sef 鈥楥ouncil for At-Risk Academics鈥. Nod y fenter hon yw diogelu academyddion y mae eu bywydau a'u gwaith mewn perygl oherwydd aflonyddwch gwleidyddol, gwrthdaro neu orthrwm. Cefnogodd y grant penodol hwn ysgolhaig benywaidd, gan gyd-fynd 芒 gwerthoedd craidd Athena Swan o ran amddiffyn, cynhwysiant a datblygiad menywod yn y byd academaidd. Cafodd cefnogaeth ariannol a mentora academaidd eu darparu gan yr Ysgol, gan alluogi'r fyfyrwraig i barhau 芒'i hymchwil mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad ehangach i degwch, i solidariaeth academaidd byd-eang, ac i hyrwyddo lleisiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol mewn cymunedau ymchwil.

Mae ein rhaglen allgymorth yn chwarae rhan strategol yn y gwaith o gefnogi ein hymrwymiadau mewn perthynas ag Athena Swan, yn enwedig o ran mynd i'r afael ag anghydbwysedd rhwng y rhywiau a hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae鈥檙 allgymorth wedi'i gynllunio'n fwriadol i feithrin ymgysylltiad cynaliadwy ac ystyrlon ag ysgolion a cholegau lleol, gan dargedu鈥檔 arbennig fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig neu sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys merched, cymunedau Cymraeg eu hiaith, a myfyrwyr sy鈥檔 dilyn llwybrau galwedigaethol. Mae ymdrechion yr ysgol yn canolbwyntio ar ehangu cyfranogiad mewn pynciau sy'n gysylltiedig 芒 busnes drwy herio stereoteipiau a chreu profiadau dysgu cynhwysol ac ysbrydoledig sy'n dangos pwy all lwyddo mewn disgyblaethau megis Busnes, Cyfrifeg ac Economeg. Mae mentrau diweddar wedi gwneud cyfraniadau sylweddol tuag at y nodau hyn. Croesawyd dros 120 o fyfyrwyr o flynyddoedd 11 i 13 i lansiad Cynhadledd Economeg Gogledd Cymru yn 2024, a gyflwynwyd mewn partneriaeth 芒 Llywodraeth Cymru a Discover Economics. Gyda ffocws cryf ar gynhwysiant o ran rhywedd a sefyllfa economaidd-gymdeithasol, trwy鈥檙 prif anerchiadau, sesiynau rhyngweithiol, ac efelychiadau polisi cynigiodd y digwyddiad fewnwelediadau perthnasol i economeg, gyda'r nod o wneud y pwnc yn fwy hygyrch ac apelgar, yn enwedig i ferched. Yn yr un modd, mae gweithdai allgymorth trwy brofiad megis yr Her Buddsoddi, yr Her Farchnata, a'r Her Arweinyddiaeth Uchelgeisiol wedi cael eu cyflwyno i ddisgyblion chweched dosbarth ar draws y rhanbarth. Nid yn unig y mae鈥檙 sesiynau ymarferol hyn yn rhoi sgiliau ymarferol, trosglwyddadwy i fyfyrwyr, ond maent hefyd yn codi dyheadau a hyder ymhlith y rhai sy'n llai tebygol o ystyried addysg uwch fel dilyniant naturiol.

Mae'r ysgol hefyd wedi cyflwyno darlithoedd gwadd a sesiynau blasu pynciol mewn economeg ymddygiadol, llythrennedd ariannol, a moeseg cyfrifeg, sydd wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer cynulleidfaoedd lleol ac wedi'u cynllunio i wneud cyswllt rhwng syniadau academaidd 芒 pherthnasedd yn y byd go iawn. Mae'r sesiynau hyn wedi eu llunio gan gadw mewn cof y rhwystrau y mae rhai myfyrwyr, yn enwedig merched a myfyrwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, yn eu hwynebu wrth weld eu hunain mewn rolau academaidd neu mewn rolau proffesiynol ym myd busnes. Yn ychwanegol at hyn, rydym wedi gwneud ymdrech benodol i hyrwyddo llwybrau amgen i feysydd Cyfrifeg a Chyllid, gan amlygu llwybrau pontio clir ar gyfer dysgwyr galwedigaethol, megis dysgwyr a chanddynt gymwysterau AAT. O wneud y llwybrau hyn yn llai dirgel, mae'r Ysgol wedi ymestyn y cyfleoedd i fyfyrwyr o gefndiroedd anhraddodiadol.

Yn olaf, fel cynllun peilot, cyflwynwyd Clwb Codio a Dadansoddeg i gefnogi llythrennedd digidol cynnar, gyda ffocws ar ymgysylltu 芒 grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, yn enwedig merched. Drwy ddefnyddio offer megis Python a dulliau dadansoddeg gweledol, mae'r fenter hon yn helpu i feithrin hyder digidol ac annog diddordeb mewn meysydd sy'n tyfu'n gyflym megis technoleg ariannol a dadansoddeg data busnes. Gyda'i gilydd, mae'r rhaglenni hyn yn dangos ymrwymiad parhaus Ysgol Busnes Bangor i gydraddoldeb a chynhwysiant 鈥 gan drosi egwyddorion Athena Swan yn gamau gweithredu gweladwy ac ymarferol sy'n cael effaith gadarnhaol ar y gymuned ehangach.

Rhaglen fentora menywod yn Ysgol Fusnes Bangor

Roedd Ysgol Busnes Bangor yn cynnal rhaglen fentora menywod a welodd myfyrwyr benywaidd yn cael eu mentora gan entrepreneuriaid benywaidd. Dyma Rebecca Bowyer yn siarad am ei phrofiad o'r rhaglen a sut aeth ymlaen i ddechrau ei busnes ei hun.

Rebecca Bowyer smiling to Camera who took part in the Female Mentorship Programme
Fideo: Rebecca Bowyer - Bangor Business School

0:00 Helo, fy enw i yw Rebecca, dwi'n fyfyrwraig rheoli busnes a marchnata yn fy nhrydedd flwyddyn sy'n byw ar

0:05 Ynys M么n, ochr arall Pont Menai. Roeddwn i'n rhan o raglen fentora menywod Athena Swan

0:10 lle cefais fy mhartneru ag entrepreneur lleol a'm hanogodd

0:15 a'm helpodd i sefydlu fy musnes fy hun. Julie Williams, mae hi'n rhedeg y Coaching Den 4 Life ac yn gweithio

0:19 gyda Big Ideas Wales. Rhoddodd Julie y sgiliau i mi ddechrau rhwydweithio'n fwy effeithiol a

0:25 defnyddio fy angerdd i wneud gwahaniaeth, gan gynnwys sefydlu ar fy mhen fy hun, ie, roedd yn eithaf agoriadol

0:32 i'r cyfleoedd sydd o gwmpas a'r gefnogaeth sydd yno yn yr ardal leol a

0:37 gan y llywodraeth o ran sefydlu eich busnes eich hun. Rhoddodd yr hyder i mi gymryd

0:42 y camau nesaf na fyddwn i wedi'u gwneud ar fy mhen fy hun hebddi hi, ni fyddwn i wedi dechrau mynd

0:46 i ddigwyddiadau rhwydweithio enfawr yn Llundain a phethau felly, sy'n naid eithaf mawr o ferch leol ar

0:52 ynys fach, a rhoddodd y pecyn cymorth i mi hefyd i ddechrau a chaniat谩u i mi ehangu

1:00 ar y sgiliau hynny'n araf dros amser, felly rydw i wedi sefydlu cwmni, a'i enw yw codi pennau

1:05 ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth, ac rydw i'n gweithio'n bennaf i godi proffil niwroamrywiaeth a gwahaniaethau

1:11 mewn gofal iechyd ac addysg, wrth fentora pobl ifanc nad oes ganddyn nhw'r system gymorth

1:16 fel y gwnes i elwa ohoni pan oeddwn i'n iau. Dywedwch ie i bob cyfle sy'n dod i'ch ffordd cymaint

1:22 ag y mae allan o'ch parth cysur oherwydd bydd eich parth cysur yn aros yn fach os na fyddwch chi'n parhau

1:27 i'w ehangu'n araf ac yn araf ac yn araf a byddwch chi'n synnu pa mor bell y gallwch chi ddod mewn gwirionedd.