探花社区

Fy ngwlad:
Myfyrwyr yn defnyddio offer peledr-x

Radiograffeg

MAES PWNC ISRADDEDIG

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Radiograffeg

Os rydych am wneud cais ar gyfer cwrs yn dechrau ym Medi 2025, cymerwch olwg ar ein tudalen Sut i Wneud Cais.

 

Myfyrwyr yn dysgu sut i ddefnyddio peiriant peledr-x

Pam Astudio Radiograffeg?

Bydd y cwrs BSc Radiograffeg Ddiagnostig ym Mhrifysgol Bangor (a addysgir ar Gampws Wrecsam Prifysgol Bangor) yn rhoi cymysgedd unigryw o sgiliau technoleg a sgiliau pobl i chi a fydd yn eich gwneud yn hynod gyflogadwy. Byddwch yn dysgu nid yn unig am sut mae pelydrau-x yn cael eu cynhyrchu ac am anatomeg y corff dynol, ond hefyd sut i siarad 芒 phobl a pha fath o bethau a all fod yn destun pryder i gleifion/ defnyddwyr gwasanaeth.

Fideo - Astudio Radiograffeg

Dyma Ameer Rana sef cyflwynydd teledu S4C yn cyflwyno'r cyrsiau Radiograffeg Diagnostig sydd ar gael yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd ym Mhrifysgol Bangor.

Fideo: Cyrsiau Radiograffeg Diagnostig

Cyfleoedd Gyrfa mewn Radiograffeg

Ar 么l graddio o Fangor mewn Radiograffeg Ddiagnostig bydd eich rhagolygon gyrfa yn rhagorol. Dros yr 11 mlynedd diwethaf mae ein graddedigion wedi cael cyflogaeth 100% o fewn 3 mis o raddio, yn bennaf o fewn y GIG.

Unwaith y byddwch yn gyflogedig, bydd datblygiad eich gyrfa yn cael ei lywio gan ddatblygiad proffesiynol parhaus ac yn sgil hyfforddiant ychwanegol yn y gwaith gallwch arbenigo mewn dull delweddu penodol neu ddatblygu eich gyrfa ymhellach o fewn Radiograffeg fel ymarferydd uwch neu ymgynghorol.

Yn ogystal 芒 gweithio yn y gwasanaeth iechyd, gall radiograffwyr hefyd fynd ymlaen i weithio yn y sector masnachol. Mae gyrfaoedd posib yn cynnwys gweithio fel arbenigwyr rhaglenni sy'n cynnig hyfforddiant i eraill ar ddefnyddio offer yn gywir, gwerthu a Gwybodeg. Mae radiograffwyr yn defnyddio technoleg flaengar ym maes gwybodeg yn y Deyrnas Unedig. Mae'r holl ddelweddu yn y GIG wedi bod yn ddigidol ers 2010, felly bydd gennych sylfaen wybodaeth helaeth i gefnogi gwybodeg mewn meysydd iechyd eraill, gan roi hyblygrwydd gyrfa ychwanegol i chi.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i鈥檆h helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Radiograffeg.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Radiograffeg llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Radiograffeg ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Radiograffeg ym Mangor yw鈥檙 dewis iawn i mi? 

Ein Hymchwil o fewn Radiograffeg

Mae ein grwpiau ymchwil i gyd yn rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR). Rydym yn adeiladu ar lwyddiant BIHMR yn REF2021 i gynnal a chynyddu rhagoriaeth mewn ymchwil iechyd, meddygol a gofal cymdeithasol. Mae ein hymchwil sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 Proffesiynau Perthynol i Iechyd, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth yn y 15ed safle yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig. Mae'r gwaith yma'n cefnogi cynlluniau blaenllaw'r brifysgol, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, ar gyfer sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor o 2024 a fydd yn adeiladu ar ein cryfderau ymchwil yn y Gwyddorau Dynol ac yn helpu i ddatblygu iechyd a gofal cymdeithasol i鈥檙 dyfodol a fydd yn gynaliadwy, yn seiliedig ar le ac yn atgyfnerthu twf y sector gwyddorau bywyd y rhanbarth.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.