Aduniad Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Ymunwch 芒 ni ar gyfer ein haduniad rheolaidd o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Wrecsam.
Cynhelir yr aduniad ar stondin Prifysgol Bangor 2.00 - 3.30pm ddydd Mercher, 6 Awst 2025.
Byddwch yn cael eich croesawu gan yr Athro Enlli Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol a fydd yn son am rai o鈥檙 datblygiadau sy鈥檔 digwydd yn y Brifysgol. Byddwch wedyn yn clywed am lwyddiannau Undeb y Myfyrwyr gan Lywydd UMCB, Huw Williams ac adloniant gan ganwr o Aelwyd JMJ, Gruff Llwyd Dafydd. Yna fydd digon o amser i ddal i fyny hefo鈥檆h cyd cyn-fyfyrwyr a staff.
Mae drwg gennym nad ydym yn gallu cynnig lluniaeth fel rydan ni wedi gwneud yn y gorffennol.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i gyd yn 么l i'r Eisteddfod!
Cysylltwch 芒 Bethan Perkins: b.w.perkins@bangor.ac.uk am fwy o wybodaeth.