Newyddlenni
Gwe-Sgyrsiau gydag Aelodau'r Cynulliad
Rydym yn chwilio am fyfyrwyr a phrentisiaid i gymryd rhan mewn gwe-sgwrs gydag Aelodau鈥檙 Cynulliad ynglyn 芒 Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yng Nghymru. Rydym am glywed eich barn ynglyn ag a ydych yn credu bod digon yn cael ei wneud i annog pobl ifanc i ddilyn cyrsiau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Hoffem hefyd glywed eich barn ynglyn ag a yw鈥檙 cyrsiau hyn yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu鈥檙 sgiliau gofynnol ar gyfer gyrfa yn y meysydd hyn.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, anfonwch neges yn mynegi eich diddordeb at celyn.cooper@cymru.gov.uk.
Cofiwch gynnwys y manylion canlynol yn eich cyflwyniad:
鈥� Eich enw
鈥� Rhif ff么n cyswllt
鈥� Cyfeiriad e-bost
鈥� Manylion eich cwrs (yn cynnwys manylion ynglyn 芒 ble鈥檙 ydych yn astudio, enw鈥檙 cwrs, eich blwyddyn astudio ac ati.)
鈥� Cod post eich cartref
鈥� Ychydig o fanylion ynglyn 芒 pham yr hoffech gymryd rhan.
Cynhelir y we-sgwrs ar fore 30 Ebrill, a bydd yn cynnwys gwe-sgwrs brawf ragarweiniol. Cyhoeddir y manylion am hyn yn fuan.
Bydd y we-sgwrs hon yn rhan o Ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i sgiliau STEM, a dyma鈥檆h cyfle chi i ddweud eich dweud!
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad, cliciwch
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw鈥檙 corff sy鈥檔 cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a鈥檌 phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru ac i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gwaith yn iawn.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2014